Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol

Mae'r Gwasanaeth Deintyddol Cyffredinol (GDS) yn darparu deintyddiaeth, archwiliadau a thriniaethau stryd fawr y GIG.

Mae Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol y GIG (GDS) yn cael eu darparu gan ymarferwyr deintyddol cyffredinol. Mae'r deintyddion hyn wedi'u contractio gan Fwrdd Iechyd lleol y GIG i ddarparu gofal a thriniaeth ddeintyddol gyffredinol i gleifion. Bydd y GIG yn darparu triniaeth a chyngor hunanofal i gadw'ch ceg, eich dannedd a'ch deintgig yn iach ac yn rhydd o boen.

Mae pob practis deintyddol yn darparu'r ystod lawn o driniaethau'r GIG i gleifion rheolaidd, gan gynnwys mynediad at ofal brys yn ystod oriau gwaith arferol.

Bydd eich deintydd yn cynnig opsiynau triniaeth i chi sy'n briodol yn glinigol a bydd yn egluro pa driniaethau y gellir eu darparu ar y GIG a pha rai y gellir eu darparu'n breifat. Rhoddir syniad o’r pris hefyd.

Ble gallaf ddod o hyd i Bractis Deintyddol Cyffredinol?

Os ydych eisoes wedi cofrestru gyda deintydd y GIG ac angen gwneud apwyntiad ar gyfer triniaeth arferol, cysylltwch â’ch practis deintyddol yn uniongyrchol. Dylai eich practis deintyddol blaenorol allu cynnig apwyntiad i chi os ydych chi wedi cael triniaeth gyda nhw yn ystod y pedair blynedd diwethaf. 

Os nad ydych wedi cofrestru gyda deintydd y GIG ar hyn o bryd, gallwch ddefnyddio’r Porth Mynediad Deintyddol i wneud cais am le gyda deintydd GIG fel unigolyn a gallwch ychwanegu rhywun arall, fel plentyn o dan 16 oed. Gallwch hefyd wneud cais ar ran rhywun arall, fel aelod o’r teulu, ffrind neu rywun rydych yn gofalu amdano neu y mae gennych berthynas o ymddiriedaeth â nhw.

Gwnewch gais am le gyda deintydd y GIG   

Os nad ydych yn dymuno neu os na allwch wneud cais ar-lein, ffoniwch 02920 747747.

Os ydych yn gymwys ac yn gwneud cais, byddwn yn cysylltu â chi pan fydd lle addas ar gael gyda deintydd y GIG yn eich ardal.

 

Dilynwch ni