Neidio i'r prif gynnwy

Beth mae therapydd deintyddol yn ei wneud?

Mae gofal deintyddol yn datblygu; gall deintyddion bellach ddirprwyo cyfran fwy o'u dyletswyddau i weithwyr gofal deintyddol proffesiynol hyfforddedig a medrus eraill, gall hyn olygu eich bod yn ymweld â therapydd i gael llenwad, yn hytrach na gweld eich deintydd. Gall therapydd deintyddol gyflawni rhai gweithdrefnau deintyddol, gan gynnwys llenwadau a hylendid deintyddol. 

Gwelir y broses hon o ddirprwyo triniaeth mewn lleoliadau gofal iechyd eraill, er enghraifft efallai y byddwch yn gweld nyrs practis ar gyfer apwyntiad meddygol yn hytrach na'r meddyg, neu efallai y cewch eich atgyfeirio at ffisiotherapydd ar gyfer eich dull adsefydlu  ar ôl anaf. Mae gan broffesiynau gofal deintyddol gwmpas ymarfer; sef rhestr o driniaeth y gallant ei darparu fel y nodwyd gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (y Rheoleiddiwr Deintyddol).

Dilynwch ni