Rôl nyrs ddeintyddol yw gweithio ochr yn ochr â deintyddion, therapyddion a hylenyddion a'u cynorthwyo i ofalu am gleifion. Mae'n swydd amrywiol a gall gynnwys popeth o gefnogi gydag archwiliadau arferol i driniaethau arbenigol uwch.
Agwedd bwysig iawn ar y rôl yw gwneud i'r claf deimlo'n ddigynnwrf ac yn gyfforddus yn ystod apwyntiadau. Mae cyfrifoldebau eraill yn cynnwys paratoi deunyddiau ar gyfer triniaethau, tynnu poer o geg y claf yn ystod y driniaeth, cadw cofnodion ar gyfer y deintydd, sterileiddio offerynnau, rheoli stoc a chynnal y safon uchaf o groes-heintio yn y ddeintyddfa.
Mae rhai nyrsys deintyddol yn cyflawni cymwysterau ychwanegol ar ôl cwblhau eu cwrs nyrsio deintyddol sylfaenol er mwyn cymryd cyfrifoldeb am dasgau mwy datblygedig fel; cymryd pelydr-X, helpu gyda’r broses dawelu, cynnal addysg hylendid y geg, tynnu argraffiadau neu ffotograffau neu roi fflworid argroenol.