Neidio i'r prif gynnwy

Beth mae deintydd yn ei wneud?

Efallai y bydd angen i wahanol aelodau o'r tîm deintyddol, gan gynnwys deintyddion, hylenyddion, therapyddion deintyddol a nyrsys deintyddol ddarparu eich triniaeth. 

Pan fyddwch yn gweld eich gweithiwr deintyddol proffesiynol, ar gyfer archwiliad, bydd eich ceg, dannedd a deintgig yn cael eu hasesu, a byddwch yn cael eich cynghori sut i ofalu amdanynt. 

Yn yr apwyntiad, bydd y deintydd yn - 

  • gofyn i chi am eich hanes meddygol ac a ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaeth ar hyn o bryd (efallai y bydd rhai dogfennau yn cael eu hanfon atoch cyn eich apwyntiad i'w cwblhau ar-lein) 

  • gofyn am unrhyw broblemau rydych chi wedi'u cael gyda'ch dannedd, eich ceg neu'ch deintgig ers eich ymweliad diwethaf 

  • cynnal archwiliad llawn o'ch ceg, dannedd a deintgig 

  • holi a rhoi cyngor ar eich deiet, ysmygu ac yfed 

  • gofyn am eich arferion glanhau dannedd a rhoi cyngor i chi ar y ffyrdd gorau o gadw'ch ceg, dannedd a deintgig yn iach 

  • esbonio unrhyw risgiau a manteision, yn ogystal â chostau deintyddol, yr holl driniaeth y gallai fod ei hangen arnoch 

  • trafod gyda chi pryd y dylai eich ymweliad nesaf fod 

 Fel rhan o'ch cynllun triniaeth, efallai y bydd gofyn i chi weld gwahanol aelodau o'r tîm deintyddol i wella iechyd eich ceg.

Dilynwch ni