Triniaeth Cynnal Bywyd Uniongyrchol (ILS)Mae'r cwrs yn rhoi gwybodaeth a sgiliau hanfodol i staff i reoli oedolion sy'n dioddef o ataliad y galon am y byr amser cyn i dîm ataliad y galon gyrraedd, neu gymorth meddygol profiadol arall. Y cwrs hwn hefyd yw mecanwaith y Bwrdd Iechyd ar gyfer cyflenwi tystysgrif diffibrilio â llaw. Fe'i cynlluniwyd i sicrhau y bydd y rheini sy'n cwblhau'r cwrs yn gallu cyfranogi yn aelod o dîm yn ystod ataliad y galon. Caiff cyrsiau ILS eu categoreiddio'n gyrsiau Diffibriliwr Allanol Awtomataidd neu ddiffibrilio â llaw a bydd angen ichi nodi pa un sydd ei angen arnoch chi adeg cadw lle. Bydd hyn yn dibynnu ar y math o ddiffibriliwr sydd gennych yn eich ardal glinigol chi. |
Pwy all fynychuMeddygon, nyrsys cofrestredig a chlinigwyr sy'n gweithio mewn ardaloedd clinigol sy'n defnyddio diffibrilwyr allanol awtomataidd neu ddiffibrilwyr â llaw ac sydd wedi cael cymeradwyaeth eu rheolwr. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael tystysgrif gan Gyngor Dadebru'r DU sy'n ddilys am flwyddyn ac a fydd yn bodloni gofynion Polisi Diffibrilio'r Bwrdd Iechyd. |
Triniaeth Cynnal Bywyd Paediatrig (PLS)Cynlluniwyd y Cwrs PLS i addysgu clinigwyr a nyrsys i asesu'n effeithiol y plentyn sy'n ddifrifol wael ac wedi'i anafu'n ddifrifol, a'i reoli'n gychwynnol. Mae'r pwyslais ar awr gyntaf y gofal, oherwydd yn ystod yr amser hwn y gosodir hynt ddilynol y plentyn. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael tystysgrif PLS gan y Grŵp Triniaeth Cynnal Bywyd Uwch sy'n ddilys am bedair blynedd. |
Pwy all fynychuMeddygon a nyrsys, sy'n gweithio gyda phlant yn y safle gofal acíwt. |
Triniaeth Cynnal Bywyd Uwch (ALS)Ystyrir mai cyrsiau triniaeth cynnal bywyd uwch yw'r safon aur yn y DU ac mewn mannau eraill o ran hyfforddi clinigwyr i reoli sefyllfaoedd ataliad y galon mewn modd diogel, effeithiol ac effeithlon. Mae hwn yn ddeuddydd o gwrs dwys sy'n cael ei asesu'n barhaus ac, ar ddiwedd y ddau ddiwrnod, gan arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael tystysgrif Darparwr Triniaeth Cynnal Bywyd Uwch, sy'n ddilys am dair blynedd. |
Pwy all fynychuCynlluniwyd y cwrs hwn i weithwyr gofal iechyd proffesiynol y byddai disgwyl iddynt gymhwyso'r sgiliau a addysgwyd yn rhan o'u dyletswyddau clinigol, neu eu haddysgu'n rheolaidd. Mae cyfranogwyr priodol yn cynnwys meddygon a nyrsys sy'n gweithio mewn ardaloedd gofal critigol (e.e. unedau Damweiniau ac Achosion Brys, Gofal Coronaidd, Gofal Dwys, a Dibyniaeth Fawr, theatrau llaw-drin, unedau derbyn meddygol) neu ar y tîm argyfwng meddygol / ataliad y galon a pharafeddygon. Dylai fod gan bob ymgeisydd benodiad clinigol cyfredol a chymhwyster gofal iechyd proffesiynol. Mae'r cwricwlwm diwygiedig yn adlewyrchu arfer cyfoes, ac yn meithrin ymhellach gynnwys y Cwrs Triniaeth Cynnal Bywyd Uniongyrchol. |
Triniaeth Cynnal Bywyd Paediatrig Uwch (APLS)Ystyrir mai cyrsiau Triniaeth Cynnal Bywyd Paediatrig Uwch yw'r safon aur yn y DU o ran hyfforddi clinigwyr i roi gofal effeithiol i blant mewn argyfwng. Mae'r pwyslais ar awr gyntaf y gofal, oherwydd yn ystod yr amser hwn y gosodir hynt ddilynol y plentyn. Mae hwn yn dridiau o gwrs dwys sy'n cael ei asesu ar ddiwedd y trydydd diwrnod, gan arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol. Cofrestrir yr ymgeiswyr llwyddiannus gyda'r Grŵp Triniaeth Cynnal Bywyd Uwch ym Manceinion yn ddarparwyr, a hynny am bedair blynedd. |
Pwy all fynychuMeddygon, uwch nyrsys paediatrig a chlinigwyr neu addysgwyr mewn gofal iechyd. |
Triniaeth Cynnal Bywyd Trawma Uwch (ATLS)Cyrsiau Triniaeth Cynnal Bywyd Trawma Uwch yw'r safon aur yn y DU o ran hyfforddi clinigwyr i roi gofal effeithiol mewn argyfwng i glaf â nifer o anafiadau. Mae hwn yn dridiau o gwrs dwys sy'n cael ei asesu gan arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol. Cofrestrir yr ymgeiswyr llwyddiannus gyda Choleg Brenhinol y Llawfeddygon, Lloegr yn ddarparwyr, a hynny am bedair blynedd. |
Pwy all fynychuPersonél sy'n feddygol gymwysedig o bob arbenigedd sy'n gofalu am gleifion â nifer o anafiadau. Mae angen i ymgeiswyr fod o lefel FP 2 ac uwch wrth fynychu'r cwrs hwn. |
Adnabod a Thrin Digwyddiadau Acíwt sy'n Bygwth Bywyd (ALERT)Datblygwyd cwrs aml-broffesiynol ALERT mewn ymgais at gwtogi ar achosion y gellir eu hosgoi o ataliadau'r galon, derbyniadau i'r uned gofal dwys a marwolaethau yn yr ysbyty. Mae ei ddatblygiad yn cwmpasu dau gysyniad pwysig – llywodraethu clinigol ac addysg aml-broffesiynol. Bydd cwrs ALERT yn benodol o berthnasol i nyrsys a meddygon iau wrth nodi, asesu, rheoli ac atgyfeirio'n briodol gleifion ward sydd 'mewn perygl' o waethygu hyd at salwch critigol. |
Pwy all fynychuMeddygon Iau, nyrsys a'r proffesiynau perthynol i iechyd sy'n gweithio mewn ysbytai acíwt. |