Beth sy'n digwydd ar ôl atgyfeiriad
Ar ôl i chi gael eich atgyfeirio at y seicolegydd, byddwch chi’n cael eich ychwanegu at eu rhestr aros os ydych chi'n addas i gael cymorth. Gallai’r seicolegydd gysylltu â chi i drafod yr atgyfeiriad hwn ymhellach os oes angen.
Pan fyddwch wedi cyrraedd brig y rhestr aros, byddwch yn cael cynnig apwyntiad. Cysylltir â chi naill ai dros y ffôn neu drwy lythyr gyda manylion yr apwyntiad hwn, felly cadwch lygad am y wybodaeth hon oddi wrthym.
Beth i'w ddisgwyl o apwyntiad seicoleg
Efallai y byddwch chi'n gweld y fideo isod yn ddefnyddiol gan ei fod yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer cael y gorau o'ch apwyntiadau seicoleg.
Weithiau gallai'r seicolegydd feddwl bod gwasanaeth arall sy'n fwy priodol i'ch cefnogi chi neu'ch plentyn. Yn yr achos hwn, bydd y seicolegydd yn eich cyfeirio at y gwasanaeth hwn yn uniongyrchol neu'n argymell eich bod chi'n trefnu apwyntiad gyda'ch meddyg teulu i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol neu wasanaeth arall a fyddai'n diwallu eich anghenion yn well. Rôl y gwasanaeth seicoleg iechyd plant yw darparu cymorth i ymdopi ag effaith byw gyda'r broblem iechyd neu'r derbyniad i'r ysbyty, ac felly ni allwn ddarparu cymorth iechyd meddwl mwy cyffredinol i deuluoedd.
Sut i ddod o hyd i ni
Ar gyfer cymorth cleifion allanol, byddwn yn cynnig apwyntiad wyneb yn wyneb i chi yn yr adran Seicoleg Iechyd Plant, Lefel 3 (Seren), Bloc B yn Ysbyty Plant Cymru. Os ydych chi'n glaf mewnol, byddwn ni'n dod i'ch gweld chi neu'ch plentyn ar y ward.
Efallai y bydd y fideo isod yn ddefnyddiol i ddangos i chi sut i ddod o hyd i'r adran seicoleg.
Fel arall, efallai y byddwch chi'n gallu dewis cael apwyntiad ar-lein os yw hyn yn fwy cyfleus i chi. Os dewiswch gael apwyntiad ar-lein yna byddwch yn derbyn dolen i'ch ffôn neu e-bost i ymuno â'ch apwyntiad drwy T-Pro. Bydd angen i chi glicio ar y ddolen a rhoi eich gwybodaeth i ymuno â'r rhestr aros rithwir. Mae T-Pro yn gweithio trwy eich porwr rhyngrwyd ac ni fydd angen i chi lawrlwytho unrhyw feddalwedd arbenigol i gael mynediad i'r apwyntiad.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.