Neidio i'r prif gynnwy

Cwrdd â'r Tîm Seicoleg Baediatrig

Dr Kerry-Ann Holder

Dr Kerry-Ann Holder
Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol

Helo, Kerry-Ann ydw i, a fi yw Pennaeth yr Adran. Rwy'n gweithio ochr yn ochr â Nicole, gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd sydd ag anhwylder iechyd. Rwyf hefyd yn rhoi cyngor seicolegol a chymorth emosiynol i'r staff sy'n gweithio gyda'r plentyn a'i deulu. 

Gair bach amdanaf fi: Fy hoff lyfr amser gwely yw ‘Y Gryffalo’ ond dw i ddim yn credu bod hufen iâ gwdihŵ yn swnio'n flasus ... mae'n well gen i flas mefus!

Dr Rhian Murphy

Dr Rhian Murphy

Seicolegydd Clinigol Arbenigol – Diabetes

Helo, Rhian ydw i ac rwy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes, ac yn cefnogi eu teuluoedd. Gall hyn fod fel cleifion mewnol a chleifion allanol.

Gair bach amdanaf fi: Fy hoff gymeriad Disney yw Olaf o Frozen – yn enwedig pan fydd yn canu ‘Summer’!   

Dr Bethan Phillips

Dr Bethan Phillips

Seicolegydd Clinigol Arbenigol – Ffeibrosis Systig

Helo - Bethan ydw i. Rwy'n rhoi cymorth seicolegol i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd sy'n byw gyda Ffeibrosis Systig ac Anhwylderau Metabolaidd Etifeddol ledled De Cymru. Rwyf hefyd yn rhoi cyngor a chymorth i'r staff sy'n gweithio yn y timau meddygol arbenigol hyn.

Gair bach amdanaf fi: Fy hoff lyfr i blant yw ‘Y Teigr a Ddaeth i De’, byddwn o hyd yn dychmygu mai fi oedd y ferch fach yn y stori a atebodd y drws i deigr llwglyd!

Dr Michelle Smalley

Dr Michelle Smalley

Prif Seicolegydd Clinigol (Niwro-oncoleg Baediatrig) - LATCH

Helo, Michelle ydw i ac rwy'n darparu gwasanaeth (niwro)seicolegol i blant a phobl ifanc sydd â thiwmor ar yr ymennydd. Gallai hyn gynnwys cymorth emosiynol i chi, eich teulu neu'r tîm sy'n eich cefnogi. Efallai hefyd y byddaf yn defnyddio cwisiau a phosau arbennig i brofi eich sgiliau cofio, dysgu a meddwl, am fod tiwmor ar yr ymennydd yn gallu effeithio ar y rhain. Gall hyn helpu eich meddygon a'ch athrawon i ddeall y pethau sy'n hawdd neu'n anodd i chi. 

Gair bach amdanaf fi: Fy hoff archarwr yw Iron Man o griw Marvel.

Dr Zoe Moss
Prif Seicolegydd Clinigol (Oncoleg) LATCH

Helo, Zoe ydw i ac rwy'n darparu gwasanaeth seicolegol i blant sydd wedi cael diagnosis o ganser, a'u teuluoedd. Rwyf hefyd yn rhoi cymorth seicolegol ac emosiynol i'r staff sy'n gweithio gyda'r plentyn a'i deulu. 

Gair bach amdanaf fi: Un o fy hoff ffilmiau yw Monsters Inc. Rwyf wrth fy modd yn pobi cacennau ac yn eu bwyta nhw hefyd!

Dr Nicole Parish
Seicolegydd Clinigol - Paediatreg Gyffredinol

Helo, Nicole ydw i ac rwy'n gweithio ochr yn ochr â Kerry-Ann, gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd sydd ag anhwylder iechyd. Rwyf hefyd yn rhoi cyngor seicolegol a chymorth emosiynol i'r staff sy'n gweithio gyda'r plentyn a'i deulu.

Gair bach amdanaf fi: Fy hoff Pokémon yw Jigglypuff achos dw i'n credu ei fod e mor giwt, yn enwedig pan fydd yn canu!

Jax Robins

Jax Robins

Helo - Jax ydw i. Fi yw un o ddau ysgrifennydd y byddwch yn siarad â ni weithiau am drefnu apwyntiadau a throsglwyddo negeseuon i'ch seicolegydd. 

Gair bach amdanaf fi: Fy hoff beth i'w wneud yw dawnsio jeif modern.

                   

 

 

 

Dilynwch ni