Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Rhywedd Cymru

Ar 1 Tachwedd 2024, yr amser aros presennol ar gyfer apwyntiad rhywedd cyntaf yw 20 mis; ar hyn o bryd rydym yn rhoi apwyntiadau i gleifion gafodd eu hatgyfeirio atom ym mis Mawrth/Ebrill 2023.

Polisi ar gyfer pobl nad ydynt yn mynychu: Os byddwch yn colli apwyntiad heb roi gwybod i ni, byddwn yn cynnig un apwyntiad pellach. Os na fyddwch yn mynychu'r apwyntiad hwn, cewch eich tynnu oddi ar ein rhestr aros a bydd angen i chi ddychwelyd at eich meddyg teulu a gofyn am atgyfeiriad newydd i Wasanaeth Rhywedd Cymru.

Sefydlwyd Gwasanaeth Rhywedd Cymru (GRhC) yn 2019. Mae GRhC yn gweithredu fel rhan o rwydwaith sy'n cynnwys clinigwyr lleol i sicrhau bod gofal yn cael ei gynnig yn nes at adref, drwy eich Bwrdd Iechyd Lleol.
 

Mae GRhC wedi’i leoli yn Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerdydd.  Gellir cynnal apwyntiadau yn GRhC ei hun, neu ar-lein, neu yng nghlinig ategol Gogledd Cymru yn Nhreffynnon. Mae cynlluniau i sefydlu mwy o glinigau ategol erbyn diwedd 2024.

 

Atgyfeirio i Wasanaeth Rhywedd Cymru

Gallwch gael mynediad i Wasanaeth Rhywedd Cymru os ydych dros 18 oed ac wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru. Dylech ofyn i'ch meddyg teulu wneud atgyfeiriad electronig. Os nad ydynt yn siŵr sut i wneud hyn, gallant gysylltu â ni a byddwn yn eu helpu gyda'r broses.

Gallwn dderbyn atgyfeiriadau gan feddygon teulu ar gyfer cleifion sy'n 17 oed neu'n hŷn; ond dylech chi a'ch meddyg teulu ddeall na fyddwch yn dod yn glaf i GRhC nes eich bod wedi troi'n 18 oed, a bydd y cyfrifoldeb yn parhau gyda'ch meddyg teulu tan y pwynt hwnnw.

Dylai cleifion o dan 17 oed sy'n dymuno defnyddio gwasanaethau rhywedd ofyn i'w meddyg teulu am atgyfeiriad i’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant ac Oedolion (CAMHS) yn y lle cyntaf. Unwaith bydd person ifanc yn cyrraedd 17 oed, dylid trosglwyddo ei ffeil i GRhC yn awtomatig.

 

Beth sy'n digwydd ar ôl atgyfeirio?

Byddwch yn ymuno â rhestr aros GRhC; pan fyddwch yn symud tuag at y brig byddwch yn cael galwad ffôn i drefnu apwyntiad; ar ôl hyn, byddwch yn derbyn llythyr i gadarnhau'r manylion. Os ydych wedi optio i mewn, byddwch hefyd yn derbyn negeseuon testun yn eich atgoffa am eich apwyntiad.

Os na allwn gysylltu â chi dros y ffôn, byddwn yn anfon llythyr atoch yn gofyn i chi gysylltu â ni ac mae'n bwysig iawn eich bod yn gwneud hyn o fewn pythefnos i dderbyn y llythyr. Os na fyddwn yn clywed oddi wrthych, byddwn yn tybio nad oes angen apwyntiad arnoch mwyach.

Yn anffodus, nid yw nifer uchel o gleifion yn mynychu eu hapwyntiadau yng Ngwasanaeth Rhywedd Cymru, ac mae hyn yn golygu amseroedd aros hirach i bawb ar ein rhestr. Os ydych yn gwybod na fyddwch yn gallu mynychu eich apwyntiad ymlaen llaw, ffoniwch ni ar 029 2183 6619 er mwyn i ni allu aildrefnu a chynnig y slot i rywun arall.

 

Apwyntiadau a thaith cleifion

Yn dilyn eich apwyntiad cyntaf, mae yna wahanol gamau i daith y claf, a ddarperir gan wahanol ddarparwyr. Mae'r tabl isod yn rhoi esboniad o'r hyn y gallai eich llwybr gynnwys.

 

Cam ar y llwybr
Beth i’w ddisgwyl
Darparwr

Asesiad cychwynnol ac apwyntiadau diagnostig

 

Mae'r apwyntiadau hyn fel arfer yn para 60-90 munud, a byddant yn caniatáu i'r clinigwr ddeall eich hanes a'ch profiadau a phenderfynu ar y camau nesaf gyda chi.

Gwasanaeth Rhywedd Cymru

Apwyntiadau dilynol

Adolygu cynnydd ar hyd y llwybr ac ystyried camau pellach, os yw'n briodol.

Gwasanaeth Rhywedd Cymru

Adolygiad endocrin

 

Cefnogi cynllun triniaeth priodol ar gyfer cleifion sydd â hanes meddygol mwy cymhleth.

Gwasanaeth Rhywedd Cymru

Therapi seicolegol

 

Gall therapi neu gymorth seicolegol fod yn briodol i rai cleifion; mae amrywiaeth o ymyriadau ar gael. Mae galw mawr am y gwasanaeth hwn felly mae'n bosibl y bydd yn rhaid aros cyn y byddwch yn cael cynnig apwyntiad.

Gwasanaeth Rhywedd Cymru

Therapi hormonau

 

Bydd y rhan fwyaf o gleifion yn cael therapi hormonau sy'n cadarnhau rhywedd (GAHT) fel rhan o'u llwybr triniaeth. Bydd GRhC yn gwneud argymhelliad ac yna'n eich atgyfeirio i’r Tîm Rhywedd Lleol (TRhLl) i gydlynu eich triniaeth. Nid yw'r GRhC yn cadw gwybodaeth am amseroedd aros ar gyfer TRhLlau felly bydd angen i chi gysylltu â nhw'n uniongyrchol os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Bwrdd Iechyd Lleol – trwy'r Tîm Rhywedd Lleol (TRhLl) i ddechrau; wedyn meddyg teulu

Atgyfeiriad llawfeddygol

 

Cynhelir llawdriniaethau sy’n cadarnhau rhywedd i’r frest a’r organau rhywiol mewn nifer o ganolfannau ledled Lloegr a gofynnir i chi am eich dewis; bydd hyn yn cael ei gynnwys yn eich atgyfeiriad. I gael mynediad i lwybr llawdriniaeth yr organau rhywiol, bydd angen i chi weld clinigwr annibynnol i gael adolygiad ar ôl i chi weld clinigydd GRhC; byddwn yn trefnu hyn i chi.

Anfonir atgyfeiriadau i Wasanaeth Cymorth Atgyfeirio Cenedlaethol Dysfforia Rhywedd (GCACDRh) y GIG - a elwir hefyd yn Ganolfan Lawfeddygol.  Fe'ch hysbysir unwaith y bydd eich atgyfeiriad wedi'i brosesu.

Nid yw GRhC yn cadw gwybodaeth am amseroedd aros ar gyfer llawdriniaethau, felly bydd angen i chi gysylltu â’r Ganolfan yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Rhwydwaith llawfeddygol GIG Lloegr

Cadw ffrwythlondeb

 

Os oes angen cadw ffrwythlondeb arnoch, mae dau opsiwn. Bydd cleifion Canolbarth a De Cymru yn cael eu hatgyfeirio'n uniongyrchol gan GRhC i Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru (SFfC). Bydd atgyfeiriadau ar gyfer cleifion Gogledd Cymru yn cael eu trefnu gan y Tîm Rhywedd Lleol ar ôl i brofion cychwynnol ddod i ben. 

Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru neu Ganolfan Hewitt

Therapydd Lleferydd ac Iaith

 

Os yw hyn yn cael ei argymell, gall naill ai GRhC neu eich meddyg teulu eich atgyfeirio. Mewn rhai byrddau iechyd, gall cleifion atgyfeirio eu hunain.

Bwrdd Iechyd Lleol (drwy atgyfeiriad meddyg teulu)

Chymorth Cymheiriaid

 

Rydym yn ffurfio partneriaeth gydag Umbrella Cymru i gynnig cymorth cymheiriaid i gleifion a allai elwa o hyn. Gallwch hefyd atgyfeirio eich hun ar unrhyw adeg – manylion cyswllt isod

Umbrella Cymru

 

 

 

 

Manylion Cyswllt

Gwasanaeth Rhywedd Cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg.

Ymholiadau cyffredinol

029 2183 6612 neu cav.wgs_enquiries@wales.nhs.uk

 

Ymholiadau apwyntiadau

029 2183 6619 neu cav.wgs_enquiries@wales.nhs.uk

 

 

 

Canolfan Lawfeddygol (GCACDRh)

Ymholiadau Cyffredinol

 

0300 131 6775 neu agem.gdnrss@nhs.net

 

Sylwch na all Gwasanaeth Rhywedd Cymru weld unrhyw wybodaeth am eich atgyfeiriad llawfeddygol unwaith y bydd wedi cael ei drosglwyddo i'r Ganolfan.

 

 

 

Timau Rhywedd Lleol

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg.

Aneurin Bevan

abb.alexclinic@wales.nhs.uk

Betsi Cadwaladr

03000 85 66 88

Caerdydd a'r Fro

localgenderservice.team.cav@wales.nhs.uk neu 07912 471661

Cwm Taf

CTM.LGT@wales.nhs.uk

Hywel Dda

gs_enquiries.HDD@wales.nhs.uk

Powys

01654 702224

Bae Abertawe

SBU.LocalGenderService@wales.nhs.uk

01792 285005

Cofiwch nad yw Timau Rhywedd Lleol yn gweithredu'n llawn amser, felly efallai y bydd oedi cyn ymateb i'ch neges.

Nid yw Gwasanaeth Rhywedd Cymru yn gallu gweld unrhyw wybodaeth am apwyntiadau, amserau aros, na chanlyniadau profion gwaed Tîmau Rhywedd Lleol.

 

 

 

Umbrella Cymru

Gwefan

https://www.umbrellacymru.co.uk/

Neges llais

0300 302 3670

Testun

07520645700

 

 
Dilynwch ni