Gwneir diagnosis yn seiliedig ar gyfuniad o lefelau colesterol uchel, arwyddion clinigol a hanes teuluol o glefyd y galon neu golesterol uchel. Gall prawf DNA fod yn ddefnyddiol i gadarnhau'r diagnosis.
Tendon XanthomataYnganiad: Zan-tho-mata. Dyddodion colesterol yw'r rhain sy'n ymddangos fel lympiau brasterog ar weyll y fferau (Achilles tendons), y cygnau (knuckles) neu'r pengliniau.
|
|
XanthelasmasYnganiad: Zan-thel-as-mass. Dyddodion colesterol yw'r rhain sy'n ymddangos fel lympiau bach ger cornel fewnol y llygad. Maen nhw fel arfer yn felyn. |
|
Arcus CornbilennolCylch gwyn o amgylch yr iris yw hwn. Mae'n gallu digwydd yn naturiol wrth i bobl fynd yn hŷn (dros 60 oed) ac nid yw bob amser yn golygu bod gan rywun FH. Os yw'n bresennol, dylech gael eich colesterol wedi'i fesur.
|
Fodd bynnag, ni fydd llawer o bobl ag FH yn dangos yr arwyddion corfforol hyn oherwydd efallai na fyddant yn dod i'r amlwg tan ganol oed, os o gwbl. Mae hyn yn aml yn golygu nad yw pobl yn gwybod bod ganddynt FH hyd nes eu bod nhw (neu aelod o'r teulu) yn cael trawiad ar y galon yn ifanc.
I gael gwybodaeth am brofion diagnostig, gweler ein taflen Profion Diagnostig ar gyfer Hypercholesterolaemia Teuluol.