Argymhellir bwyta deiet iach a chytbwys ac yfed alcohol yn gymedrol yn unig, fel yr argymhellir ar gyfer gweddill y boblogaeth gyffredinol.
Mae Heart UK a Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF) yn elusennau sy'n cynorthwyo pobl sydd â phroblemau'r galon a cholesterol uchel. Maen nhw wedi datblygu llawer o adnoddau i'ch helpu i gynnal deiet iach a chytbwys. Rhoddir isod nifer o adnoddau sy'n darparu gwybodaeth ddefnyddiol.
| Heart UK | Adnoddau Byw'n Iach |
| BHF | Lleihau eich colesterol gwaed |
| Y GIG | Canllaw bwyta'n iach - Y plât bwyta'n dda |
| Drinkaware | Effeithiau alcohol ar iechyd |
Mae'n arbennig o bwysig i rywun sydd ag FH neu yr amheuir bod ganddo FH beidio ag ysmygu, oherwydd bod y rhai hynny sy'n ysmygu mewn perygl uwch o ddatblygu problemau â'r galon.
Gallwch gael cymorth i roi'r gorau i ysmygu gan yr adnoddau canlynol neu drwy ymweld â'ch meddyg teulu.
| Cymru | Helpa Fi i Stopio |
| Y Deyrnas Unedig | Smokefree |
| Yr Alban | Can Stop Smoking |
| Gogledd Iwerddon | Want 2 Stop |
| Iwerddon | Quit |
Mae aros mor egnïol â phosibl yn gwella eich lefelau colesterol ac yn lleihau eich pwysedd gwaed a'ch pwysau. Mae'r rhain i gyd yn ffactorau risg ar gyfer datblygu clefyd y galon.
Mae canllawiau cenedlaethol ar weithgarwch ar gael i bobl sy'n ceisio gwella eu ffitrwydd: