Mae argyfwng deintyddol yn golygu bod angen cymorth brys arnoch ar gyfer problem ddifrifol yn eich ceg. Gallai hyn gael ei achosi gan bethau fel haint neu anaf deintyddol.
Mae problemau deintyddol brys cyffredin yn cynnwys:
Os ydych chi'n dioddef poen deintyddol ac wedi cofrestru gyda deintydd y GIG, cysylltwch â'ch practis deintyddol yn uniongyrchol am apwyntiad brys. Dylai bob deintydd fod yn gallu ymateb i achos brys os ydych ar ei restr.
Os nad ydych wedi cofrestru gyda deintydd GIG, ewch i wefan GIG 111 Cymru i gael rhagor o wybodaeth, neu ffoniwch CAF 24/7 ar 0300 10 20 247. Sylwch, dim ond ar gyfer cleifion sy'n byw yn ardal Caerdydd a'r Fro y mae’r llinell Llinell Gymorth Ddeintyddol Frys.
Byddwch yn cael eich brysbennu gan aelod o'r tîm gofal sylfaenol.Byddwch yn derbyn cyngor ar leddfu poen ac, os yw'n briodol, yn cael apwyntiad yn y lleoliad brys mwyaf priodol ar gyfer eich problem, a all fod yn Ddeintydd Gofal Sylfaenol, Deintydd Cymunedol neu Ysbyty Deintyddol y Brifysgol.
Nid yw’r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn darparu gwasanaeth brys 24 awr ac mae ar gau gyda’r nos, ar benwythnosau ac ar wyliau banc.
Os oes gennych ddeintydd arferol a'ch bod yn dioddef poen yn y dannedd, dylech gysylltu â'ch deintydd yn y lle cyntaf. Os nad ydych wedi cofrestru gyda deintydd GIG, ewch i ffoniwch CAF 24/7 ar 0300 10 20 247.