Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor Deintyddol Brys yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg

Mae CAF 24/7 yn darparu llinell gyngor deintyddol 24 awr y dydd dros y ffôn, 7 diwrnod yr wythnos i gleifion yng Nghaerdydd a Bro Morganwg. Gall cleifion sy'n profi poen deintyddol difrifol, chwydd, trawma neu waedu gormodol gysylltu â'r gwasanaeth drwy ffonio 0300 10 20 247.

Bydd swyddog galwadau yn cymryd gwybodaeth sylfaenol gennych, ac amlinelliad byr o'r rheswm dros yr alwad, gan dawelu eich meddwl a diystyru unrhyw bryderon sy'n peryglu bywyd. Ar ôl i hyn gael ei wneud, bydd clinigwr yn cysylltu â chi ac yn cwblhau system frysbennu drylwyr. Gall y clinigwr roi cyngor hunanofal gan gynnwys cyngor ar leddfu poen, cynnig apwyntiad (os yw'n briodol) neu eich atgyfeirio at dîm y Genau a’r Wyneb. Cofiwch, nid oes angen apwyntiad wyneb yn wyneb ar gyfer pob pryder deintyddol.

Os oes angen, mae apwyntiadau brys ar gael rhwng 08:00 a 17:00, 7 diwrnod yr wythnos. Y tu allan i'r amser hwn, cynigir cyngor hunanofal i chi wrth aros am yr apwyntiad nesaf sydd ar gael. Mae hwn yn wasanaeth brys, a chynigir yr apwyntiad nesaf sydd ar gael o fewn cyfnod o 24 awr. Nid oes apwyntiadau deintyddol ar gael dros nos. 

Yn ystod dyddiau'r wythnos, mae nifer sefydlog o apwyntiadau ar gael trwy ddarparwyr gofal sylfaenol o fewn y gymuned a chyfleusterau hyfforddi gofal eilaidd (Ysbyty Deintyddol y Brifysgol). Mae'r rhain yn bennaf ar gyfer cleifion nad ydynt yn mynychu practis deintyddol rheolaidd sy'n disgrifio symptomau a ystyrir yn briodol ac sydd angen triniaeth weithredol / ymyrraeth feddygol. Caiff cleifion sy'n mynychu practis deintyddol yn rheolaidd eu cyfeirio'n ôl at eu Hymarferydd Deintyddol Cyffredinol i geisio triniaeth frys yn y lle cyntaf.

Ar y penwythnosau a dros gwyliau banc, mae apwyntiadau brys ar gael yn Ysbyty Dewi Sant. Mae'r gwasanaeth ar gael rhwng 08:30 - 17:00. Mae pob apwyntiad yn cael ei drefnu ymlaen llaw a rhaid i bob claf gysylltu â CAF 24/7 a chael ymgynghoriad brysbennu. Nid yw'r gwasanaeth yn darparu cyfleuster galw heibio.

Bydd cleifion sy'n mynychu apwyntiad yn talu ffi annibynnol a bennir gan Lywodraeth Cymru a godwyd i £30.00 ar 1af Ebrill 2024. Bydd hyn yn cynnwys asesiad, diagnosis a gofal ataliol. Os oes angen, darperir pelydrau-X, triniaethau i atal symptomau rhag gwaethygu’n sylweddol neu driniaethau i fynd i'r afael â phoen difrifol.

Mae'n ofynnol i bob claf dalu'r tâl oni bai eu bod wedi'u heithrio neu'n gymwys i gael cymorth gyda rhan o gost y driniaeth.

Mae gan gleifion hawl i wasanaethau deintyddol (Brys) y GIG am ddim ar ddiwrnod cyntaf y driniaeth os ydynt:

  • o dan 18 oed
  • yn 18 oed ac mewn addysg amser llawn
  • yn feichiog
  • wedi cael babi o fewn y 12 mis cyn i'r driniaeth ddechrau
  • yn y carchar ar hyn o bryd neu mewn uned troseddwyr ifanc

Mae gan gleifion hefyd hawl i driniaeth ddeintyddol am ddim os ydynt, pan fydd y driniaeth yn dechrau neu pan godir y tâl:

  • yn derbyn budd-daliadau penodol
  • ar incwm isel

Mae gan gleifion hawl i wasanaethau deintyddol y GIG am ddim os cânt eu henwi ar dystysgrif HC2 ddilys. Gall cleifion hefyd fod â hawl i wasanaethau deintyddol y GIG am gost is os cânt eu henwi ar dystysgrif HC3 sy'n ddilys yn ystod y driniaeth.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch ffioedd deintyddol ac eithriadau ar gael drwy ddilyn y ddolen hon.

Mae gwybodaeth i gleifion sy'n dymuno cofrestru eu diddordeb mewn lle gyda deintydd y GIG yng Nghaerdydd a'r Fro ar gael drwy ddilyn y ddolen hon.

Am ragor o gymorth a chyngor deintyddol, gellir cael mynediad at wefan GIG 111 Cymru.

Dilynwch ni