Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â'n Gwasanaeth

Atgyfeirio claf

Bydd cleifion ond yn cael eu hatgyfeirio i’r cynllun os gall y practis ddangos y canlynol:

  • Bod y claf wedi ei gofrestru yn y practis fel preswylydd parhaol neu dros dro.
  • Bod y claf wedi cyflawni gweithred o drais corfforol neu weithred o drais nad oedd yn gorfforol yn erbyn aelod o staff, claf arall neu ymwelydd â’r feddygfa.
  • Bod y weithred wedi cael ei chyflawni ar safle’r practis, neu yn y man lle roedd gwasanaethau’n cael eu darparu i’r claf o dan y contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol;
  • Cadarnhad bod yr heddlu wedi cael eu hysbysu am y digwyddiad. Yn unol â rheoliadau GMS 2004.

 

Yn dilyn digwyddiad sy’n bodloni’r meini prawf uchod i’w gynnwys yn y cynllun, gallai’r practis gwblhau ffurflen Adrodd am Ddigwyddiad ATS Cymru Gyfan a’i hanfon at Dîm Gofal Sylfaenol Caerdydd a’r Fro a fydd yn casglu’r wybodaeth angenrheidiol a’i throsglwyddo i’r panel ATS. Bydd y panel yn asesu’r wybodaeth a roddir ac yn penderfynu a ddylid derbyn neu wrthod yr atgyfeiriad. Mae proses apelio ar gael pe bai’r practis sy’n atgyfeirio yn anghytuno â phenderfyniad y panel.

 

Yn ystod yr apwyntiad

Mae’r gwasanaeth yn gweithredu o’r clinig CAVHIS/Tu allan i oriau ar ddydd Iau rhwng 4pm a 6.30pm yn unig.

Yn ystod yr apwyntiad, caiff cleifion fynediad llawn at ofal meddyg teulu, gan gynnwys yr angen am feddyginiaeth a phresgripsiynau rheolaidd. Os bydd angen atgyfeiriad ar y claf at wasanaeth arall, bydd ei feddyg teulu yn ei atgyfeirio fel y bo’n briodol. 

Os bydd angen mynediad ar unigolion at ofal y tu allan i oriau agor y gwasanaeth, bydd angen iddynt gysylltu â CAF24/7.

 

Beth sy’n digwydd nesaf

Yn dilyn y 12 mis cychwynnol, bydd y panel ATS yn cyfarfod yn ffurfiol i asesu risg y claf yn ffurfiol, er mwyn ystyried ei ryddhau o’r gwasanaeth.  Os bydd yr asesiad risg yn isel, gall gael ei ryddhau o’r cynllun a rhoddir gwybodaeth iddo i’w gefnogi wrth gofrestru gyda meddyg teulu newydd.

Dilynwch ni