Bydd cleifion ond yn cael eu hatgyfeirio i’r cynllun os gall y practis ddangos y canlynol:
Yn dilyn digwyddiad sy’n bodloni’r meini prawf uchod i’w gynnwys yn y cynllun, gallai’r practis gwblhau ffurflen Adrodd am Ddigwyddiad ATS Cymru Gyfan a’i hanfon at Dîm Gofal Sylfaenol Caerdydd a’r Fro a fydd yn casglu’r wybodaeth angenrheidiol a’i throsglwyddo i’r panel ATS. Bydd y panel yn asesu’r wybodaeth a roddir ac yn penderfynu a ddylid derbyn neu wrthod yr atgyfeiriad. Mae proses apelio ar gael pe bai’r practis sy’n atgyfeirio yn anghytuno â phenderfyniad y panel.
Mae’r gwasanaeth yn gweithredu o’r clinig CAVHIS/Tu allan i oriau ar ddydd Iau rhwng 4pm a 6.30pm yn unig.
Yn ystod yr apwyntiad, caiff cleifion fynediad llawn at ofal meddyg teulu, gan gynnwys yr angen am feddyginiaeth a phresgripsiynau rheolaidd. Os bydd angen atgyfeiriad ar y claf at wasanaeth arall, bydd ei feddyg teulu yn ei atgyfeirio fel y bo’n briodol.
Os bydd angen mynediad ar unigolion at ofal y tu allan i oriau agor y gwasanaeth, bydd angen iddynt gysylltu â CAF24/7.
Yn dilyn y 12 mis cychwynnol, bydd y panel ATS yn cyfarfod yn ffurfiol i asesu risg y claf yn ffurfiol, er mwyn ystyried ei ryddhau o’r gwasanaeth. Os bydd yr asesiad risg yn isel, gall gael ei ryddhau o’r cynllun a rhoddir gwybodaeth iddo i’w gefnogi wrth gofrestru gyda meddyg teulu newydd.