Mae ein Nyrsys Digartrefedd arbenigol yn cynnig clinig agored dan arweiniad nyrsys o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 12pm yn yr HOC i unrhyw un sy’n ddigartref neu mewn llety ansefydlog. Nid oes angen apwyntiad.
Mae ein nyrsys yn darparu ystod eang i ofal iechyd gan gynnwys gofal clwyfau, rheoli mân anhwylderau, cymorth i gofrestru gyda meddyg teulu a mynediad i bractisau meddygon teulu y gallent fod wedi cofrestru â hwy. Mae’r nyrsys yn gweithio’n agos gyda hosteli lleol a hostel canolfan Huggard yn cynnwys y ganolfan ddydd.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.