Rydym yn dîm o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ymroddedig sy’n gofalu am oedolion ag anhwylderau metabolaeth a etifeddwyd.
Mae ein clinigau cleifion allanol yn cynnwys:
Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ac yn croesawu cleifion sy’n symud o’r clinigau metabolaidd pediatrig i’n gwasanaeth yn rheolaidd; proses a elwir yn bontio.
Darllenwch fwy am Glefydau Metabolaidd Etifeddol.
Os hoffech gysylltu â ni gydag ymholiadau nad ydynt yn rhai brys gallwch wneud hynny rhwng 9:00yb a 4:00yh yn ystod yr wythnos. Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg.
Os oes gennych gyflwr metabolig acíwt ac yn mynd yn ddifrifol wael ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos:
Gellir dod o hyd i ganllawiau manwl ar gyfer rheoli cyflyrau metabolaidd acíwt mewn achos o argyfwng ar wefan British Inherited Metabolic Disease Group (BIMDG) (agor mewn dolen newydd).
Mewn achos o argyfwng, ceisiwch gysylltu ag Ymgynghorydd Metabolaidd. Sylwch fod yr Ymgynghorwyr Metabolaidd yn dymuno annog cyswllt meddygol.
Sylwer: Nid oes gwasanaeth meddygol ar alwad ffurfiol y tu allan i oriau ar gyfer Gwasanaeth Clefyd Metabolaidd Etifeddol Cymru Gyfan, ond gellir cysylltu ag ymgynghorwyr trwy switsfwrdd Ysbyty Athrofaol Cymru (029 218 47747) os oes angen cyngor brys, er na ellir gwarantu y byddant ar gael.