Ar hyn o bryd, rydym yn ailgyflwyno apwyntiadau wyneb yn wyneb a hefyd yn cynnig apwyntiadau rhithwir os oes angen / os yw'n well gennych.
Byddwch yn ymwybodol oherwydd y pandemig bod oedi gydag apwyntiadau dilynol ac rydym yn gwneud ein gorau glas i fynd i’r afael â hyn.
Diolch am eich dealltwriaeth a'ch cefnogaeth yn ystod y cyfnod digynsail hwn.
Llinell cyngor nyrsio arbenigol ACHD: 02921 844 580
Cydlynydd ACHD: 02921 843 892
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg.
Ar hyn o bryd mae brechiadau ar gyfer ein cleifion ACHD yn cael eu trefnu/darparu gan wasanaethau meddygon teulu. Yn anffodus, ni allwn ddarparu brechlynnau i'n cleifion trwy ein gwasanaeth ACHD ac nid oes gennym ychwaith unrhyw ddylanwad ar ba mor fuan y bydd cleifion yn ei dderbyn.
Y llywodraeth sy'n penderfynu ar y drefn y cynigir brechlynnau. Dylai unigolion hynod fregus a bregus gael blaenoriaeth dros y boblogaeth gyffredinol/ categorïau risg isel.
Er efallai na fydd y brechlyn yn eich atal rhag dal a throsglwyddo'r feirws, bydd yn lleihau eich siawns o fynd yn ddifrifol wael. Felly, mae'n bwysig eich bod yn parhau i ddilyn y cyngor a ddarperir gan y Llywodraeth a'r GIG mewn perthynas â lleihau trosglwyddiad COVID-19 hyd yn oed ar ôl cael y brechlyn.
Gweler mwy o wybodaeth am y brechlyn yma:
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Sefydliad y Galon Prydain
Cymdeithas Cardioleg Ewropeaidd