Yn fwyaf cyffredin, bydd gennych gyswllt â'r uned endosgopi ar ôl cael eich atgyfeirio gan eich Meddyg Teulu neu arbenigwr ysbyty. Mewn rhai achosion, cysylltir â chi i drefnu triniaeth ddilynol (e.e. oherwydd briw ar y stumog) neu driniaeth wyliadwriaeth (e.e. oherwydd polypau blaenorol yn y coluddyn).
Ar ôl i'r tîm gweinyddol dderbyn eich atgyfeiriad, cewch eich ychwanegu at y rhestr aros endosgopi. Mae'r amseroedd aros ar gyfer pob triniaeth yn amrywio yn dibynnu faint o frys sydd am y driniaeth, a'r math o driniaeth y gofynnwyd amdani. Os byddwch chi'n datblygu unrhyw symptomau newydd ar ôl i chi gael eich atgyfeirio, rydym yn eich cynghori i geisio cyngor meddygol pellach. (Sylwch nad yw'r staff gweinyddol wedi'u hyfforddi'n feddygol ac ni ddylid cysylltu â nhw am y rheswm hwn.)
Bydd y ganolfan archebu endosgopi yn ceisio cysylltu â chi ar dri achlysur gwahanol dros y ffôn i drefnu eich triniaeth, gan roi cynnig ar wahanol adegau o'r dydd a gyda’r nos cynnar. Os ydyn nhw'n llwyddo i gysylltu â chi, byddan nhw'n gofyn rhai cwestiynau arferol i chi am unrhyw gyflyrau meddygol a meddyginiaethau blaenorol rydych chi'n eu cymryd. Yn dilyn hyn, byddant yn cytuno ar ddyddiad apwyntiad ac yn postio gwybodaeth i chi ynglŷn â sut i baratoi ar gyfer y driniaeth. Os na all y ganolfan archebu gysylltu â chi dros y ffôn, byddant yn anfon llythyr atoch yn gofyn ichi eu ffonio o fewn 14 diwrnod. Os na dderbyniwn unrhyw gyswllt gennych o fewn y cyfnod hwn, dychwelir eich atgyfeiriad at y meddyg atgyfeirio.
Mewn rhai achosion rydym yn gallu archebu eich triniaeth yn uniongyrchol, ar ôl i chi gael eich gweld mewn clinig cleifion allanol. Bydd yr ymgynghorydd neu'r nyrs arbenigol yn llenwi ffurflen atgyfeirio endosgopi ac yn rhoi hon i chi fynd â hi i'r uned endosgopi. Rhowch y ffurflen hon i'r derbynnydd ac eglurwch eich bod wedi cael eich anfon o'r clinig i drefnu triniaeth endosgopi. Bydd aelod o'r tîm gweinyddol yn darparu llyfryn gwybodaeth i chi am y driniaeth y gofynnwyd amdani. Ar ôl i chi gael cyfle i ddarllen trwyddo, byddant yn gofyn rhai cwestiynau ichi am unrhyw gyflyrau meddygol a meddyginiaethau blaenorol rydych yn eu cymryd. Byddant yn cytuno ar ddyddiad apwyntiad ac yn rhoi gwybodaeth i chi am sut i baratoi ar gyfer y driniaeth.
Trefnir triniaethau colonosgopi sgrinio canser y coluddyn ar wahân gan Ymarferwyr Sgrinio Canser y Coluddyn, a drefnir yn uniongyrchol gan y Rhaglen Sgrinio Coluddyn. Mae'r adran resbiradol yn trefnu triniaethau Broncosgopi yn annibynnol.