Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am Ryddhau Cleifion Endosgopi

Yn dilyn eich triniaeth endosgopi, cynigir copi o adroddiad y driniaeth i chi. Mae copi hefyd yn cael ei bostio at eich Meddyg Teulu a'ch meddyg atgyfeirio.

Amlinellir isod y termau cyffredin a ddefnyddir mewn adroddiadau endosgopi:

Ademoma Math anfalaen o bolyp a all weithiau ddod yn ganseraidd dros gyfnod hir os na chaiff ei dynnu.
Achalasia Cyflwr prin sy'n achosi i'r falf rhwng yr oesoffagws a'r stumog fethu agor i ganiatáu i fwyd fynd drwyddo.
Angioectasia Pibellau gwaed bach yn leinin eich stumog neu'ch coluddyn a all weithiau waedu neu achosi anemia.
Oesoffagws Barrett Cyflwr sy'n gysylltiedig ag adlif asid neu ddŵr poeth sy'n achosi newid yn y math o gelloedd sy'n leinio'ch oesoffagws. 
Biopsi Pan gymerir sampl fach o feinwe o leinin eich stumog neu'ch coluddyn gan ddefnyddio cwpanau metel bach.
Candidiasis Math o haint ffwngaidd sy'n aml yn effeithio ar y geg neu'r oesoffagws.
Prawf CLO Biopsi a gymerir i chwilio am bresenoldeb bacteria H. pylori yn y stumog, a all fod yn gysylltiedig â symptomau asid ac wlserau.
Colitis Llid ar leinin y coluddyn
Colonosgopi Prawf camera sy'n archwilio'ch holl goluddyn mawr (colon).
Diverticula Cwdyn bach sy'n ymwthio allan o leinin y coluddyn.
Duodenitis Dyma lid ar leinin rhan gyntaf eich coluddyn bach (dwodenwm)
Wlser Dwodenol Wlserau neu Friwiau Dwodenal yn rhan gyntaf eich coluddyn bach (Duodenwm).
Dyspepsia Anghysur neu boen yn eich abdomen uchaf.
Dysphagia Yn disgrifio'r teimlad o fwyd yn glynu yn eich gwddf neu anhawster wrth lyncu.
EMR (Endoscopic Mucosal Resection) Dull a ddefnyddir i gael gwared ar bolypau. Mae clustog o hylif yn cael ei chwistrellu o dan polypau gwastad i'w codi. Yna cânt eu tynnu gan ddefnyddio dolen wifren (magl).
Erydiad Wlserau Bach
Rhwyg/fissure Rhwyg bach yn leinin y pen ôl (anws).
Gastritis Dyma lid ar leinin y stumog
Gastrosgopi (OGD) Prawf camera sy'n archwilio'ch oesoffagws, eich stumog a rhan gyntaf eich coluddyn
H.Pylori Enw bacteria sy'n ffurfio yn eich stumog ac a all achosi briwiau neu symptomau asid i rai pobl.
Haematemesis Chwydu gwaed.
Haemorrhoids Chwyddiadau a all ffurfio yn y pen ôl (anws) a all waedu weithiau.
Hiatius Hernia Dyma lle gall y stumog wthio i fyny rhwng y cyhyrau anadlu (diafframau) i ran isaf y frest. Yn aml nid yw'n achosi unrhyw symptomau, a digwyddir sylwi arno yn ystod eich prawf camera.
Hyperplastic Polyp Math o bolyp anfalaen nad yw fel rheol angen cael gwared arno nac unrhyw driniaeth bellach.
Syndrom Coluddyn Llidus (IBS) Mae'r Syndrom Coluddyn Llidus (IBS) yn anhwylder cyffredin o'r perfedd.
Malaena Yn disgrifio ysgarthiad du y gallwch ei gael oherwydd gwaedu o'r stumog neu ran gyntaf y coluddyn.
Dyspepsia heb fod yn Wlser Symptomau dyspepsia ond lle na cheir hyd i achos.
Oesophagitis Dyma lid ar leinin eich oesoffagws.
Pedunculated Mae hwn yn disgrifio'r math o bolyp sydd â choesyn (yn edrych fel madarch)
Polyp Twf cigog a all ffurfio ar leinin y stumog neu'r coluddyn
Proton pump inhibitor (PPI Dyma dabled sy'n atal faint o asid a gewch yn eich oesoffagws a'ch stumog, a gellir ei ddefnyddio i drin symptomau asid ac wlserau.
Pylorus Yr agoriad sy'n cysylltu'ch stumog â rhan gyntaf eich coluddyn bach (dwodenwm)
Sigmoidosgopi Prawf camera sy'n archwilio ochr chwith eich coluddyn mawr (colon).
Magl Dolen wifren i gael gwared â pholypau
Wlser Pant llidus yn leinin eich stumog neu'ch coluddyn
Varices Gwythiennau ymledol (tebyg i wythiennau faricos) a all ddigwydd yn yr oesoffagws neu ran uchaf eich stumog.


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

.

   
   

 

 

 

 

Dilynwch ni