Yn dilyn eich triniaeth endosgopi, cynigir copi o adroddiad y driniaeth i chi. Mae copi hefyd yn cael ei bostio at eich Meddyg Teulu a'ch meddyg atgyfeirio.
Amlinellir isod y termau cyffredin a ddefnyddir mewn adroddiadau endosgopi:
Ademoma | Math anfalaen o bolyp a all weithiau ddod yn ganseraidd dros gyfnod hir os na chaiff ei dynnu. |
Achalasia | Cyflwr prin sy'n achosi i'r falf rhwng yr oesoffagws a'r stumog fethu agor i ganiatáu i fwyd fynd drwyddo. |
Angioectasia | Pibellau gwaed bach yn leinin eich stumog neu'ch coluddyn a all weithiau waedu neu achosi anemia. |
Oesoffagws Barrett | Cyflwr sy'n gysylltiedig ag adlif asid neu ddŵr poeth sy'n achosi newid yn y math o gelloedd sy'n leinio'ch oesoffagws. |
Biopsi | Pan gymerir sampl fach o feinwe o leinin eich stumog neu'ch coluddyn gan ddefnyddio cwpanau metel bach. |
Candidiasis | Math o haint ffwngaidd sy'n aml yn effeithio ar y geg neu'r oesoffagws. |
Prawf CLO | Biopsi a gymerir i chwilio am bresenoldeb bacteria H. pylori yn y stumog, a all fod yn gysylltiedig â symptomau asid ac wlserau. |
Colitis | Llid ar leinin y coluddyn |
Colonosgopi | Prawf camera sy'n archwilio'ch holl goluddyn mawr (colon). |
Diverticula | Cwdyn bach sy'n ymwthio allan o leinin y coluddyn. |
Duodenitis | Dyma lid ar leinin rhan gyntaf eich coluddyn bach (dwodenwm) |
Wlser Dwodenol | Wlserau neu Friwiau Dwodenal yn rhan gyntaf eich coluddyn bach (Duodenwm). |
Dyspepsia | Anghysur neu boen yn eich abdomen uchaf. |
Dysphagia | Yn disgrifio'r teimlad o fwyd yn glynu yn eich gwddf neu anhawster wrth lyncu. |
EMR (Endoscopic Mucosal Resection) | Dull a ddefnyddir i gael gwared ar bolypau. Mae clustog o hylif yn cael ei chwistrellu o dan polypau gwastad i'w codi. Yna cânt eu tynnu gan ddefnyddio dolen wifren (magl). |
Erydiad | Wlserau Bach |
Rhwyg/fissure | Rhwyg bach yn leinin y pen ôl (anws). |
Gastritis | Dyma lid ar leinin y stumog |
Gastrosgopi (OGD) | Prawf camera sy'n archwilio'ch oesoffagws, eich stumog a rhan gyntaf eich coluddyn |
H.Pylori | Enw bacteria sy'n ffurfio yn eich stumog ac a all achosi briwiau neu symptomau asid i rai pobl. |
Haematemesis | Chwydu gwaed. |
Haemorrhoids | Chwyddiadau a all ffurfio yn y pen ôl (anws) a all waedu weithiau. |
Hiatius Hernia | Dyma lle gall y stumog wthio i fyny rhwng y cyhyrau anadlu (diafframau) i ran isaf y frest. Yn aml nid yw'n achosi unrhyw symptomau, a digwyddir sylwi arno yn ystod eich prawf camera. |
Hyperplastic Polyp | Math o bolyp anfalaen nad yw fel rheol angen cael gwared arno nac unrhyw driniaeth bellach. |
Syndrom Coluddyn Llidus (IBS) | Mae'r Syndrom Coluddyn Llidus (IBS) yn anhwylder cyffredin o'r perfedd. |
Malaena | Yn disgrifio ysgarthiad du y gallwch ei gael oherwydd gwaedu o'r stumog neu ran gyntaf y coluddyn. |
Dyspepsia heb fod yn Wlser | Symptomau dyspepsia ond lle na cheir hyd i achos. |
Oesophagitis | Dyma lid ar leinin eich oesoffagws. |
Pedunculated | Mae hwn yn disgrifio'r math o bolyp sydd â choesyn (yn edrych fel madarch) |
Polyp | Twf cigog a all ffurfio ar leinin y stumog neu'r coluddyn |
Proton pump inhibitor (PPI | Dyma dabled sy'n atal faint o asid a gewch yn eich oesoffagws a'ch stumog, a gellir ei ddefnyddio i drin symptomau asid ac wlserau. |
Pylorus | Yr agoriad sy'n cysylltu'ch stumog â rhan gyntaf eich coluddyn bach (dwodenwm) |
Sigmoidosgopi | Prawf camera sy'n archwilio ochr chwith eich coluddyn mawr (colon). |
Magl | Dolen wifren i gael gwared â pholypau |
Wlser | Pant llidus yn leinin eich stumog neu'ch coluddyn |
Varices | Gwythiennau ymledol (tebyg i wythiennau faricos) a all ddigwydd yn yr oesoffagws neu ran uchaf eich stumog. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
. |
|
|