Mae ymarfer corff yn gywir ar ôl geni eich plentyn yn hanfodol er mwyn adennill cryfder, stamina a'ch osgo cyn beichiogrwydd, ond hefyd i atal straen neu anaf.
Mae ymarferion cyhyr llawr y pelfis yn bwysig ni waeth a ydych wedi esgor drwy'r wain neu drwy doriad Cesaraidd am fod beichiogrwydd ei hun yn gallu gwneud cyhyr llawr y pelfis yn wannach. Trowch at dudalennau Llawr y Pelfis i gael gwybod rhagor am adfer y cyhyr pwysig hwn.
Mae'r Gwasanaeth Ffisiotherapi Iechyd Menywod yn argymell ymarferion Pilates er mwyn adfer eich corff yn ofalus ar ôl beichiogrwydd ac esgor.
Os ydych yn dod i'n dosbarth adfer Pilates Ôl-enedigol, gallwch lawrlwytho copi o'r llyfryn ymarfer yma.
Peidiwch â cheisio gwneud yr ymarferion Pilates hyn heblaw bod Ffisiotherapydd wedi'ch gweld chi a chynghori ei bod yn ddiogel ichi eu gwneud. |
Ar gyfer rhai menywod, mae cyhyrau'r abdomen yn datblygu bwlch wrth i'w baban dyfu ac mae'r bwlch yn datblygu yn ystod beichiogrwydd. Rhoir llawer o enwau i'r bwlch hwn, ond yn anatomegol yr enw yw Cyhyr Diastasis (sef bwlch) Syth Abdominis, neu DRAM yn fyr. Mae'n bwysig gwybod sut mae mesur y bwlch hwn a pha gyngor ac ymarferion i'w dilyn er mwyn helpu i'w leihau. Trowch at ein taflen wybodaeth DRAM i gael gwybod rhagor.
Rydym yn cynnal sesiwn galw heibio DRAM bob wythnos, lle bydd Ffisiotherapydd arbenigol yn gallu mesur cyhyrau eich abdomen, ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych a rhoi cyngor ac ymarferion penodol er mwyn helpu i leihau'r bwlch hwn. Mae croeso ichi ddod â'ch baban os nad oes gofal plant gennych ar y pryd.
Bob dydd Llun 2-3pm
Y Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol yn Ysbyty Athrofaol Cymru
Ymholiadau i 02920 744385