Mae toriad Cesaraidd yn llawdriniaeth fawr i wal yr abdomen, ac felly mae'n bwysig dychwelyd gan bwyll i weithgarwch arferol, gan roi amser i'ch corff wella.
Mae cyngor ar gyfer y cyfnod yn syth ar ôl llawdriniaeth ar gael yn y daflen Cyngor ar Doriad Cesaraidd.
Cyngor ar ôl Toriad Cesaraidd
- Cymerwch bethau'n araf deg am 6 wythnos
- Dylech osgoi codi unrhyw beth sy'n drymach na'ch baban
- Dylech osgoi unrhyw weithgarwch sy'n achosi straen, e.e. codi pethau'n barhaus
- Cofiwch wneud "ychydig bach yn aml" a chynyddu'r gweithgarwch yn raddol
- Peidiwch â gyrru am 4-6 wythnos
- Gwnewch ymarferion abdomenol ysgafn
- Dechreuwch ymarferion llawr y pelfis
- Cynhaliwch y clwyf â'ch dwylo wrth besychu, chwerthin neu disian