Neidio i'r prif gynnwy

Toriad Cesaraidd

Baby

Mae toriad Cesaraidd yn llawdriniaeth fawr i wal yr abdomen, ac felly mae'n bwysig dychwelyd gan bwyll i weithgarwch arferol, gan roi amser i'ch corff wella.

Mae cyngor ar gyfer y cyfnod yn syth ar ôl llawdriniaeth ar gael yn y daflen Cyngor ar Doriad Cesaraidd.

Cyngor ar ôl Toriad Cesaraidd

  • Cymerwch bethau'n araf deg am 6 wythnos
  • Dylech osgoi codi unrhyw beth sy'n drymach na'ch baban
  • Dylech osgoi unrhyw weithgarwch sy'n achosi straen, e.e. codi pethau'n barhaus
  • Cofiwch wneud "ychydig bach yn aml" a chynyddu'r gweithgarwch yn raddol
  • Peidiwch â gyrru am 4-6 wythnos
  • Gwnewch ymarferion abdomenol ysgafn
  • Dechreuwch ymarferion llawr y pelfis
  • Cynhaliwch y clwyf â'ch dwylo wrth besychu, chwerthin neu disian

Gellir dechrau'r rhain ar unwaith.

Dychmygwch dynnu gwaelod eich abdomen yn unig i ffwrdd o'ch llaw a thuag at eich cefn.

Mae'n bwysig meddwl am eich osgo cyn gynted ag y byddwch wedi codi o'r gwely a dechrau ymarferion abdomenol ysgafn.

 

Dilynwch ni