Os cawsoch chi rwyg gradd 3 neu 4 wrth esgor ar eich baban, byddwch yn cael eich gweld yn yr adran Ffisiotherapi ryw 4 - 7 wythnos yn dilyn y geni.
Anfonir llythyr i'ch cyfeiriad cartref yn eich gwahodd i ddechrau i sesiwn grŵp a fydd yn rhoi llawer o wybodaeth a chyngor, a chyfle i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am wella ar ôl geni plentyn. Dylech hefyd fod wedi cael taflen tra buoch yn yr ysbyty.
Yn dilyn y sesiwn grŵp, cewch wahoddiad i drefnu apwyntiad unigol gyda Ffisiotherapydd er mwyn cael eich archwilio a hefyd i drafod unrhyw bryderon sydd gennych am wella. Os oes gennych unrhyw symptomau, byddwch yn cael eich cadw ar driniaeth Ffisiotherapi i fynd i'r afael â nhw.
Mae croeso ichi ddod â'ch baban i unrhyw un o'ch apwyntiadau ond efallai y byddwch yn gallu cofio mwy o'r wybodaeth a gewch os gallwch ddod ar eich pen eich hun.
Mae dechrau ymarferion llawr y pelfis yn gynnar yn rhan bwysig o'ch gwellhad, ac ni ddylai'r ymarferion hyn frifo os ydych yn eu gwneud yn gywir wrth ledorwedd.
Os oes gennych unrhyw bryderon am wellhad neu haint cyn eich apwyntiad cyntaf, trowch at y tudalennau ar broblemau clwyf perineol acíwt a chysylltwch â'r Adran Ffisiotherapi Iechyd Menywod ar 02920 745884.