Amcangyfrifir bod mwy nag un rhan o dair o fenywod yn dioddef rhywfaint o anymataliaeth ar ôl geni plentyn. Anymataliaeth wrinol straen (neu SUI) yw'r math mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar fenywod yn ystod beichiogrwydd ac yn ystod y cyfnod ôl-enedigol. Gall hwn arwain at golli wrin wrth besychu a thisian, yn ystod eich gweithgareddau dyddiol fel codi a phlygu a hefyd wrth ddychwelyd i ymarfer corff.
Mae adfer cyhyrau llawr y pelfis yn ffactor pwysig yn eich gwelliant. Canfu ymchwil fod llawer o fenywod yn gwneud yr ymarferion pwysig hyn yn anghywir ac felly mae'n bwysig gwirio bod eich techneg yn gywir.
Dylech ddisgwyl gwneud ymarferion llawr y pelfis deirgwaith y dydd am dri mis o leiaf. Gall hyn fod yn heriol iawn pan fydd gennych faban newydd gartref ac felly mae'n hanfodol ichi wneud lle iddynt yn eich trefn ddyddiol yn hytrach na cheisio neilltuo amser ar wahân iddynt. Yn y dyddiau cynnar, gall ymarfer llawr eich pelfis wrth fwydo eich baban fod yn amser defnyddiol. Mae'r GIG yn cymeradwyo ap Squeezy, wedi'i gynllunio gan Ffisiotherapydd er mwyn cyfarwyddo ar dechneg a hefyd atgoffa menywod i wneud yr ymarferion pwysig hyn yn rheolaidd.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich pledren a/neu gyhyrau llawr eich pelfis, siaradwch â'ch Bydwraig neu Feddyg Teulu.
Gall fod yn ddefnyddiol cwblhau holiadur asesu risg llawr y pelfis i lywio'r drafodaeth hon.
Os byddwch yn sgorio dros 6 a bod eich baban yn llai na 12 wythnos oed, byddwch yn gallu dod i sesiwn galw heibio Ffisiotherapi i gael mwy o wybodaeth a chyngor.