Nodau a Disgwyliadau ein Gwasanaeth
Ein Nodau
Mae ein tîm yn ceisio:
- sicrhau bod cleifion yn cael eu trin ag urddas a pharch bob amser
- darparu gwasanaeth diogel, graenus sy'n gwella o hyd
- cynnwys cleifion mewn penderfyniadau am eu gofal a'u triniaeth, a rhoi gwybodaeth iddynt wneud dewisiadau gwybodus
- grymuso cleifion â'r wybodaeth a'r sgiliau i hunanreoli fel sy'n ymarferol ar ôl i'w triniaeth ddod i ben.
Disgwyliadau
Mewn ymgais at gyflawni'r canlyniadau gorau posibl, disgwyliwn y canlynol gan ein cleifion:
- cyrraedd mewn pryd i'ch apwyntiad, neu roi gwybod i'ch adran Ffisiotherapi os nad allwch ddod. Efallai bydd modd rhoi eich apwyntiad i rywun arall
- trin staff y GIG, cleifion eraill ac ymwelwyr â pharch
- gwrando'n ofalus ar gyngor gan eich Ffisiotherapydd a chymryd rhan weithgar yn eich triniaeth a'ch adsefydlu.