Canllawiau ynghylch prinder meddyginiaethau
Weithiau gall meddyginiaeth a ragnodwyd ar eich cyfer fod allan o stoc yn eich fferyllfa leol. Gall hyn fod am nifer o resymau megis prinder stoc cenedlaethol, cynnydd sydyn yn y galw am feddyginiaeth, lefelau stoc y fferyllfa neu gallai fod yn feddyginiaeth y mae angen ei harchebu yn arbennig ar eich cyfer chi.
Bydd y rhagnodwr wedi rhagnodi’r feddyginiaeth y mae’n teimlo sydd fwyaf addas ar gyfer eich anghenion. Mae’n bosibl bod eich meddyginiaeth ar gael mewn fferyllfa arall, ac rydym yn eich cynghori i roi cynnig ar fferyllfeydd eraill cyn gofyn i’r rhagnodwr am feddyginiaeth amgen.
Helpwch eich fferyllfa a’ch practis meddyg teulu drwy wneud yn siŵr bod gennych ddigon o feddyginiaeth. Dylech gynllunio ymlaen llaw a sicrhau bod digon o amser i wneud cais am eich meddyginiaeth a’i chasglu. Mae hyn yn cynnwys os ydych yn mynd ar wyliau neu ar ŵyl y banc.
Rydym yn deall y gall fod yn rhwystredig os nad yw eich meddyginiaeth mewn stoc ac mae meddygon teulu a chydweithwyr yn y fferyllfeydd yn gwneud eu gorau i’ch helpu. Ni chaiff trais ac ymddygiad ymosodol yn erbyn ein cydweithwyr ei oddef.
Eich Fferyllydd lleol ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf, a’ch Dewis Sylfaenol, i gael cyngor gofal iechyd a thriniaeth ar gyfer mân anhwylderau, fel peswch, annwyd, pen tost a dolur rhydd.
Mae eich Fferyllfa leol yn gallu gwneud cymaint mwy na dosbarthu eich meddyginiaeth ar bresgripsiwn; gallant gynnig cyngor, triniaeth ac ystod o wasanaethau clinigol y GIG sydd i gyd am ddim o’r eiliad y byddwch yn eu cyrchu, heb fod angen gweld eich meddyg teulu.
Nid oes angen i chi wneud apwyntiad i weld eich Fferyllydd Cymunedol bob amser; dewch o hyd i’ch fferyllfa leol gan ddefnyddio’r opsiwn chwilio isod a galwch heibio.