Endometriosis
Dyma gyflwr pan fydd meinwe o leinin eich croth yn tyfu'r tu allan i'ch croth. Mae'r dyddodion meinwe hyn yn ymateb i gylchred eich mislif, fel y mae leinin eich croth yn gwneud — tewhau, torri i lawr a gwaedu bob mis wrth i lefelau eich hormonau godi a disgyn. Oherwydd ei fod yn digwydd y tu allan i'r groth, ni all y gwaed a'r feinwe adael eich corff trwy eich gwain. Yn hytrach, maen nhw'n aros yn eich abdomen, lle y gallant arwain at godenni poenus a bandiau ffibrog o feinwe craith (adlyniadau).
Tyndra yng nghyhyrau llawr y pelfis
Gall gwingiadau neu dyndra yng nghyhyrau llawr y pelfis arwain at boen mynych yn y pelfis.
Clefyd llidiol cronig y pelfis
Gall hyn ddigwydd os bydd haint hirdymor, yn aml wedi'i drosglwyddo'n rhywiol, yn achosi creithio yn gysylltiedig â'ch organau pelfig.
Ôl yr ofari
Ar ôl llawdriniaeth i dynnu'r groth, yr ofarïau a'r tiwbiau Fallopio, gall darn bach o ofari gael ei adael ar ôl yn ddamweiniol a datblygu codenni poenus yn ddiweddarach.
Ffibroidau
Gall y tyfiannau anghanseraidd hyn yn y groth achosi pwysedd neu deimlad o drymder yn rhan waelod eich abdomen. Yn anaml y byddant yn achosi poen gwayw oni bai bod eu cyflenwad gwaed yn cael ei dorri i ffwrdd a'u bod yn dechrau marw (dirywio).
Syndrom coluddyn llidus
Gall symptomau sy'n gysylltiedig â syndrom coluddyn llidus — chwyddo, rhwymedd neu ddolur rhydd— fod yn ffynhonnell poen a phwysau yn y pelfis.
Syndrom pledren boenus (llid y bledren interstitaidd)
Mae'r cyflwr hwn yn gysylltiedig â phoen mynych yn eich pledren ac angen mynych i droethi. Gallech gael poen yn y pelfis wrth i'ch pledren lenwi, a all wella dros dro ar ôl i chi wacáu'ch pledren.
Syndrom gorlawnder pelfig
Mae rhai meddygon o'r farn bod gwythiennau chwyddedig, math faricos, o gwmpas eich croth ac ofarïau yn gallu arwain at boen yn y pelfis. Fodd bynnag, mae meddygon eraill yn llawer llai sicr bod syndrom gorlawnder pelfig yn achosi poen yn y pelfis oherwydd nid oes gan y rhan fwyaf o fenywod â gwythiennau chwyddedig yn y pelfis unrhyw boen cysylltiedig.
Ffactorau seicolegol
Gall iselder, straen cronig neu hanes o gamdriniaeth rywiol neu gorfforol gynyddu'ch risg o gael poen cronig yn y pelfis. Mae trallod emosiynol yn gwneud poen yn waeth ac mae byw gyda phoen cronig yn cyfrannu at drallod emosiynol. Yn aml, mae'r ddau ffactor hyn yn troi'n gylch dieflig.