Mae'r gwasanaethau diabetes wedi'u lleoli ar ein dau brif safle yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau. (Sylwer bod cyngor diabetes arbenigol yn cael ei roi i bob un o ysbytai Bwrdd Iechyd y Brifysgol ar gais.)
Ein nod yw cynnig gwasanaethau diabetes cynhwysfawr i gleifion, gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan roi'r cyfle i ddysgu mwy am ddiabetes, cael cymorth arbenigol pan fydd angen, a meithrin perthynas dda â staff meddygol.