Gofalodd Jackie Askey, o Landaf, am ei gŵr, George, am ddeuddeg mlynedd yn dilyn ei ddiagnosis; dioddefodd ddementia fasgwlaidd ar ôl cael strôc. Bu farw George ym mis Ionawr 2015.
Dywedodd Jackie ei bod yn teimlo'n unig iawn ar y dechrau; bu'n gofalu am George am ddwy flynedd cyn ceisio cymorth. Roedd wedi rhoi'r gorau i'w swydd ac yn dechrau teimlo'n isel.
Ar ôl mynd at eu meddyg teulu, fe'u hatgyfeiriwyd i'r Tîm Cof, ond nid oedd y cwrs therapi ysgogi gwybyddol yn briodol i anghenion George.
Cafodd gwraig Bill, sef Yves, ddiagnosis o ddementia yn 2011. Roedden nhw eisoes wedi gofalu am fam Yves am 10 mlynedd, ac roedd hyn wedi helpu Bill i ofalu am ei wraig.
Yn ei brofiad ef, mae llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd cyfathrebu â phobl sydd â dementia. Mae wedi gweld y byddan nhw'n aml yn siarad yn uniongyrchol â'r gofalwr yn lle'r unigolyn ei hun.
Mae David yn gofalu am ei wraig, Joyce, a gafodd ddiagnosis o ddementia yn 2011. Mae'n cofio sut y sylwodd ar yr arwyddion gyntaf: byddai Joyce yn anghofio pethau bach, byddai'n dod o hyd iddi'n sefyll a syllu ac roedd hi'n ei chael yn anodd mynd i'r Clwb Bridge.
Ar ôl iddi gael ei diagnosis, atgyfeiriodd y Tîm Cof nhw i Solace, sy'n "sefydliad gwych" yn ôl David.