Mae Caerdydd a Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddatblygu Cymunedau sy'n Cefnogi Dementia, a gweithio mewn partneriaeth â phreswylwyr lleol, busnesau a gweithwyr proffesiynol i ddod yn Gyfeillion Dementia.
Mae Cymunedau sy'n Cefnogi Dementia yn canolbwyntio ar gynyddu ymwybyddiaeth yn y gymuned er mwyn lleihau stigma a sicrhau bod pobl sydd â dementia yn hyderus y bydd gwasanaethau'n parchu eu hanghenion. Yn ei dro, gobeithiwn y bydd hyn yn lleihau'r rhwystrau y gallai pobl sydd â dementia eu hwynebu o ran ofn, diffyg hyder a phroblemau symudedd.
Un o nodau ein Cynllun Dementia tair blynedd yw cryfhau cymunedau trwy weithio gyda phobl y mae dementia'n effeithio arnynt, yn ogystal â phartneriaid allweddol, i ddiffinio a datblygu cymunedau sy'n cefnogi dementia.
Mae dau safle peilot wedi cael eu hamlygu; un yng ngorllewin Caerdydd ac un yn ardal y Barri. Mae'r cynlluniau peilot yn golygu bod nifer o sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector yn cydweithio â'r Gymdeithas Alzheimer's i ddatblygu sesiynau hyfforddiant ac ymwybyddiaeth.
Bydd Hyfforddiant Cyfeillion Dementia yn cael ei gynnig i sefydliadau lleol a phreswylwyr lleol yr amlygwyd eu bod yn debygol o ddod i gysylltiad â phobl sydd â dementia yn rheolaidd. Bydd y cynlluniau peilot yn para am flwyddyn, ac yna bydd y fenter yn cael ei chyflwyno fesul cam i weddill ardal Caerdydd a'r Fro.
Mae Cyfeillion Dementia yn ymwneud â deall ychydig yn fwy am ddementia a'r pethau bach y gallwch eu gwneud i helpu pobl sydd â'r cyflwr. Gall y bobl sydd o'i amgylch a'r amgylchedd y mae'n byw ynddo effeithio ar brofiad unigolyn o ddementia, felly mae pob gweithred yn cyfrif, o helpu rhywun i ddod o hyd i'r bws iawn i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i roi'r si ar led am ddementia.
Mae pobl sydd â dementia eisiau parhau i fyw eu bywydau beunyddiol a theimlo'n rhan o'u cymuned leol, ond weithiau mae angen help llaw arnynt i wneud hynny. Nid creu arbenigwyr yw nod Cyfeillion Dementia, ond helpu pobl i ddeall ychydig yn fwy am sut beth yw byw gyda'r cyflwr ac yna rhoi'r ddealltwriaeth honno ar waith. Dewch o hyd i'ch sesiwn Cyfeillion Dementia agosaf yma.