Sut mae cael at eich cofnodion iechyd eich hun
Er mwyn cael at eich cofnodion iechyd eich hun bydd angen ichi gysylltu â'n Hadran Cofnodion Iechyd.
Eglurwn yma pam mae gwybodaeth yn cael ei chasglu amdanoch ac ym mha ffyrdd y gallai'r wybodaeth hon gael ei defnyddio. Dywedwn wrthych hefyd am eich hawl i weld eich cofnodion iechyd, a sut mae cael atynt.
Eich Gwybodaeth Eich Hawliau / Your Information Your Rights
Mae gwybodaeth ar gael hefyd ar ein poster dwyieithog.
Gellir darparu gwybodaeth mewn fformatau ac ieithoedd eraill hefyd os oes angen. I ofyn am fformatau eraill, cysylltwch â'r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth.
Mae'r GIG yn casglu gwybodaeth am resymau amrywiol, sy'n cael eu hegluro'n fanylach drwy'r dolenni canlynol:
Os hoffech wybod rhagor am y ffordd y defnyddiwn eich gwybodaeth, neu os nad ydych, am unrhyw reswm, yn dymuno i'ch gwybodaeth gael ei defnyddio yn unrhyw un o'r ffyrdd a ddisgrifir yma, siaradwch â'r gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n gofalu amdanoch. Gallwch hefyd gysylltu â'r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth neu 'Warcheidwad Caldicott', sef Aelod Bwrdd Gweithredol sy'n gyfrifol am sicrhau bod y Bwrdd Iechyd Prifysgol yn defnyddio gwybodaeth adnabyddadwy cleifion yn y modd cywir.
Y Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Llawr Cyntaf, Monmouth House
Ysbyty Athrofaol Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW
Ffôn: 029 2074 6677