Neidio i'r prif gynnwy

Cyrraedd eich apwyntiad

Mae'r Clinigau Diagnosis Cyflym yn cael eu cynnal ar foreau Llun a Iau yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Cynhelir y sesiynau hyn yn Ystafell 17 yr Adran Cleifion Allanol.

I gyrraedd yr Adran Cleifion Allanol, ewch i'r ysbyty drwy'r prif gyntedd. Cymerwch y grisiau neu'r lifft o'ch blaen i'r llawr cyntaf. Bydd y coridor cleifion allanol ar y chwith.

Mae Ystafell 17 ar ddiwedd y coridor hwn ar yr ochr dde.

Os ydych chi'n cyrraedd yr ysbyty mewn car, defnyddiwch y mannau parcio sydd ar gael i gleifion ac ymwelwyr.

Mae’r meysydd parcio hyn wedi’u nodi’n glir gan yr arwyddion glas. Mae parcio am ddim am 4 awr. Gall cleifion ac ymwelwyr ychwanegu dwy awr i’w hamser parcio drwy roi manylion cofrestru eu cerbyd yn un o’r peiriannau parcio sgrin gyffwrdd. Mae’r peiriannau parcio wedi’u lleoli yn ardal derbynfa’r ysbyty ac o fewn llawer o adrannau

Os ydych chi'n cyrraedd ar fws neu dacsi, mae'r man gollwng y tu allan i'r brif fynedfa a gallwch ddilyn y cyfarwyddiadau uchod i'r clinig.

Byddem yn eich annog i ddefnyddio ein gwasanaeth Parcio a Theithio sydd am ddim i staff, cleifion ac ymwelwyr ag Ysbyty Athrofaol Cymru.

Mae’r bws yn rhedeg o Bentwyn, oddi ar yr A48(M). Mae’r gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener, gyda bysiau bob 20 munud ac mae amser y daith i Ysbyty Athrofaol Cymru tua 6 munud.

Mae'r fideo canlynol yn dangos i chi ble i fynd a beth i'w ddisgwyl pan fyddwch yn cyrraedd yr ysbyty.

Dilynwch ni