Neidio i'r prif gynnwy

Clinig SWAN (Syndrom Heb Enw)

Clinig cyntaf y DU sy’n edrych ar fyrhau ‘taith ddiagnostig’ y rhai â chlefydau prin heb ddiagnosis ledled Cymru. 

 

Mae clefydau prin yn broblem iechyd sylweddol sy’n gysylltiedig â chanlyniadau gwael.  Mae clefydau prin yn effeithio ar 1 o bob 2000 neu lai o gleifion. Mae’r amser cyn cael diagnosis i rai cleifion yn sylweddol.  Mae natur gwasanaethau i gleifion sydd â chlefydau prin yn newid yn gyflym.  Mae datblygiadau mawr o ran profi, yn enwedig profion genetig, sy’n golygu y gallai’r “Daith Ddiagnostig” i lawer o gleifion gael ei chwtogi’n sylweddol lle nad yw diagnosis wedi bod yn bosibl eto.

Ar hyn o bryd, rydym yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer cleifion pediatrig ac oedolion gan gydweithwyr ar lefel meddygon ymgynghorol, lle mae’r claf yn gysylltiedig â dwy system neu fwy ac mae ganddynt achos posibl o ddiagnosis isorweddol unedig. Efallai bod ganddynt gamffurfiadau cynhenid neu ddysmorffiad sy’n awgrymu anhwylder monogenig isorweddol. Y disgwyl yw bod ymchwiliad rhesymol heb nodi diagnosis wedi cael ei gynnal yn y gorffennol.

Nid yw’r clinig hwn yn cymryd cyfrifoldeb dros ofal clinigol y claf; cyfrifoldeb y Meddyg Ymgynghorol a wnaeth yr atgyfeiriad yw hwnnw.

Clinigau SWAN

Mae ein gwasanaethau clinig SWAN wedi’u lleoli’n bennaf yn yr adrannau cleifion allanol yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru.

Os cewch eich derbyn i’r Clinig SWAN byddwch yn derbyn galwad(au) ffôn gan y nyrsys clinigol arbenigol, cwnselwyr genetig neu’r cymrodyr clinigol. Byddant yn trafod eich atgyfeiriad, yr hyn rydych chi’n gobeithio ei gael gan y clinig, sut mae’r clinig yn gweithio, a chyfeirio at gymorth/gwasanaethau perthnasol nad ydych o bosibl yn ymwybodol ohonynt, i helpu gyda’ch anghenion meddygol, a rhai nad ydynt yn feddygol, sydd heb eu diwallu. 

 


Pwy fydda i’n ei weld?

Mae Clinig SWAN yn dîm amlddisgyblaethol sy’n cynnwys llawer o arbenigwyr sydd â diddordeb mewn Clefydau Prin gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, genetegimiwnoleg a phediatreg

  • Yr Athro Stephen Jolles
    Imiwnolegydd Clinigol Ymgynghorol, Arweinydd Oedolion ar gyfer Clinig SWAN
  • Dr Ian Tully
    Genetegydd Ymgynghorol, Arweinydd Genetig Oedolion ar gyfer Clinig SWAN
  • Dr Mark Ponsford
    Meddyg Ymgynghorol, Alergeddau, Imiwnoleg Glinigol a Labordy, Clinig SWAN i Oedolion
  • Dr Jennifer Gardner
    Genetegydd Ymgynghorol, Arweinydd Genetig Pediatrig ar gyfer Clinig SWAN
  • Dr Martin Edwards
    Pediatregydd Ymgynghorol, Arweinydd Pediatrig Cyffredinol ar gyfer Clinig SWAN

Pwy arall fydda i’n ei weld?

Mae Clinig SWAN hefyd yn cynnwys nyrsys clinigol arbenigol, cymrodyr meddygol a chwnselydd genetig.

  • Zoe Morrison
    Nyrs Glinigol Arbenigol Pediatrig SWAN
  • Lana Murrell
    Nyrs Glinigol Arbenigol Clinig SWAN i Oedolion
  • Dr Matthew Spencer
    Cymrawd Clinigol Meddygol Pediatrig
  • Dr Mohammad Abdelrazek
    Cymrawd Clinigol Meddygol Pediatrig
  • Dr Hussein Alhafez
    Cymrawd Clinigol Meddygol Oedolion
  • Dr Ceri Haddon
    Cymrawd Clinigol Meddygol Oedolion

Aelodau eraill o’r tîm

  • Dr Graham Shortland OBE
    Pediatregydd Ymgynghorol / Arweinydd SWAN
  • Emily Carne
    Nyrs Ymgynghorol mewn Imiwnoleg
  • Hywel Williams
    Biowybodegydd 

Cysylltu â ni

Os hoffech atgyfeirio cleifion i Glinig SWAN, nodwch “SWAN Referral” a’u hanfon at:

Swan.Clinic.CAV@wales.nhs.uk

 

Diwrnod Clefydau Prin 2023
Clinig SWAN cyntaf Prydain yn cynnig gobaith i gleifion yng Nghymru sydd a syndromau mor brin nad oes ganddyn nhw enw

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni