Yng Nghanolfan y Fron rydym yn recriwtio ac yn cynnal nifer o dreialon clinigol canser y fron. Mae hyn yn amrywio o dreialon arsylwi i dreialon hapsamplu rheolyddedig.
Mae gan bob un o'r astudiaethau feini prawf cymhwysedd gwahanol ac rydym yn sgrinio ein cleifion yn unol â hynny. Rydym yn ceisio cysylltu â phob claf a allai fod yn gymwys naill ai yn y clinig neu drwy'r post, ond os byddwch chi’n gweld rhywbeth y tybiwch allai fod yn briodol i chi, mae croeso i chi roi galwad i ni.
Mae Grace Uruski hefyd yn cydsynio cleifion ar gyfer Banc Canser Cymru, biofanc sy'n casglu samplau meinwe a gwaed gan gleifion yng Nghymru i gael eu defnyddio ar gyfer ymchwil fyd-eang.
Mae ein holl astudiaethau wedi cael eu hasesu'n drylwyr gan adrannau moeseg rhyngwladol/cenedlaethol, maen nhw wedi cael eu cymeradwyo'n llawn gan Ymchwil a Datblygu, ac wedi’u mabwysiadir gan bortffolio astudiaethau'r Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol (NIHR).
NOSTRA
Astudiaeth yw hon ar gyfer cleifion sydd â chanser ymledol y fron cynnar sy’n HER2-positif ac yn negyddol o ran derbynyddion oestrogen (ER). Mae'n ystyried a yw celloedd canser yn dal i fod yn bresennol ar ôl triniaeth neo gynorthwyol (cyn llawdriniaeth) gyda chemotherapi. Mae'n ofynnol bod cleifion yn cydsynio i fiopsïau gwely tiwmor ychwanegol ar ddiwedd eu cemotherapi.
Grace Uruski, Nyrs Ymchwil Banc Canser y Fron
Sarah Scourfield, Uwch Swyddog Ymchwil