Rydym wedi ymrwymo i hyfforddiant o ansawdd uchel ym maes rheolaeth lawfeddygol cleifion canser gynaecolegol gan ddefnyddio dull cyfannol sy'n cynnwys arbenigeddau anllawfeddygol ac arbenigeddau llawfeddygol eraill cysylltiedig. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal rhaglen is-arbenigol a achredir gan yr RCOG, sydd â lle ar gyfer dau gymrawd yn ogystal â Modiwlau Sgiliau Hyfforddi Uwch (ATSM) mewn gynaeoncoleg. Rydym yn annog unrhyw hyfforddeion obstetreg a gynaecoleg sy'n meddwl am ddatblygu diddordeb mewn gynaeoncoleg i gysylltu ag unrhyw un o'r ymgynghorwyr a fydd yn fwy na pharod i drafod hyn yn fanylach.