Neidio i'r prif gynnwy

Llefydd i ymweld

Os ydych yn pendroni beth i’w wneud yma yng Nghaerdydd, mae gennych ddigon o ddewis.

 

 

 

Castell Caerdydd

Mae Castell Caerdydd yn gastell canoloesol a phlasty Fictoraidd Gothig wedi ei adfywio, wedi'i leoli yn ganol dinas Caerdydd. Mae Castell Caerdydd yn un o brif atyniadau treftadaeth Cymru ac yn safle o arwyddocad rhyngwladol. Wedi'i leoli yng nghanol y brifddinas, o fewn parcdiroedd hardd, mae gan y Castell bron i 2,000 o flynyddoedd o hanes yn aros i'w gael ei ymchwilio. Am fwy o wybodaeth, ewch i'r wefan ganlynol. Castell Caerdydd • Castell yng Nghanol Dinas Caerdydd

 

 

 

 

 

Bae Caerdydd

Can mlynedd yn ol, cafodd ffortiwn Caerdydd ei adeiladu ar allforion glo Cymru, pan fo'r dociau teuluol Bute yn ganolfan brysur i longau yn darparu miliynau o dunelli ar draws y byd. Gyda dirywiad y diwydiant glo, ni ddefnyddiwyd yr hen ddociau ac fe'u gadawyd i ddirywio. Ond, yn ddiweddar, maent wedi cael eu haiddatblygu i greu Bae Caerdydd, sef glannau bywiog o amgylch llyn dwr ffres trawiadol. Mae'r ardal nawr yn fyw ac yn brysur gyda gweithgarwch unwaith eto. Mae'r llongau a'r peiriannau wedi eu hamnewid a bwytai a bariau, y gwaith caled gydag adloniant a mwynhad. Am fwy o wybodaeth am yr hyn all Bae Caerdydd gynnig, ewch i'r wefan ganlynol. Bae Caerdydd

 

 

 

 

 

 

Stadiwm Principality

Mae gan Stadiwm y Mileniwm sgor UEFA 5-seren ac mae wedi cynnal gemau o dau Gwpan Rygbi'r Byd (gan gynnwys y Rownd Derfynol yn 1999), wedi bod yn dyst i dri llwyddiant "Grand Slam" Cymru yn y RBS Chwe Gwlad, ac wedi llwyfannu chwe Rownd Defynol Cwpan FA. Mae'r Stadiwm hefyd wedi cynnal artistiaid mawr y busnes cerdd gyda llu o gyngherddau mawr a digwyddiadau chwaraeon moduro ar ei CV. Am fwy o wybodaeth am Stadiwm Y Principality, ewch i'r wefan ganlynol. Stadiwm Principality

 

 

 

 

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn amgueddfa ac oriel gelf yng Nghaerdydd, Cymru. Mae'r amgueddfa yn rhan o rwydwaith ehangach o Amgueddfa Cymru - Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Gyda rhaglen brysur o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae gennym rywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag yw eich diddordeb. Am fwy o wybodaeth, ewch i'r wefan ganlynol. Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Museum Wales

 

 

 

 

 

Am fwy o wybodaeth am bethau i'w gweld a gwneud yng Nghaerdydd, dilynwch y ddolen hon. Croeso Caerdydd, prifddinas Cymru • Gwybodaeth swyddogol i dwristiaid Caerdydd

 

 

 

 

 

 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni