Lorraine SPEIGHT - Rheolwr y Gwasanaeth CF
Manylion Cyswllt:
02920 715382
Lorraine.speight@wales.nhs.uk
Croeso i wefan Canolfan Ffeibrosis Systig Cymru Gyfan i Oedolion. Gobeithiwn y byddwch yn gallu dod o hyd i'r holl wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani o fewn y wefan hon. Fodd bynnag, os oes unrhyw beth yr hoffech ei wybod na allwch ddod o hyd iddo ar y wefan, mae croeso i chi gysylltu â ni. Yn yr un modd, os ydych yn teimlo bod angen i ni gynnwys gwybodaeth sydd heb ei chynnwys, eto cysylltwch â ni a byddwn yn sicrhau bod y wefan yn cael ei diweddaru i wneud y wefan mor addysgiadol a chyfoes â phosibl.
Mae Canolfan Ffeibrosis Systig (CF) Cymru Gyfan i Oedolion wedi'i lleoli yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, Penarth ym Mro Morgannwg yn agos at Gaerdydd. Ar hyn o bryd rydym yn darparu gofal Ffeibrosis Systig (CF) arbenigol i dros 350 o gleifion sy'n oedolion o bob rhan o Gymru a'r gororau. Dyma’r unig ganolfan CF i oedolion yng Nghymru ac rydym yn ymdrechu’n barhaus i ddiwallu anghenion y cleifion yn ein gofal yn awr ac yn y dyfodol.
Gofynnwn i’n cleifion weithio gyda ni i sicrhau eu lles a’u hiechyd parhaus. Gofynnwn am bresenoldeb rheolaidd yn y clinig a pharch at bob aelod o’r tîm amlddisgyblaethol bob amser. Maent yma nid yn unig i helpu i wneud y gorau o'ch therapïau, ond hefyd i gynnig cyngor a chymorth lle bo angen.
Yn ogystal, gofynnwn i chi fod yn agored ac yn onest o ran cadw at driniaeth a thrafod unrhyw bryderon sydd gennych. Byddwn yn eich trin â pharch fel unigolyn ac yn cadw cyfrinachedd bob amser. Gyda'n gilydd gallwn gyrraedd ein nod.
Rydym wedi ein lleoli mewn adeilad tri llawr pwrpasol sy'n gartref i'n hadran cleifion allanol CF ar y llawr daear, mae'r llawr canol yn darparu 16 o ystafelloedd gwely CF en-suite, ac mae'r llawr uchaf yn gartref i'r tîm amlddisgyblaethol CF cyfan.
Sefydlwyd Canolfan Ffeibrosis Systig Cymru Gyfan i Oedolion am y tro cyntaf yn 2012. Rhoddwyd bywyd newydd i'r adeilad gwreiddiol, yr oedd disgwyl iddo eistedd yn segur am gyfnod amhenodol, ar ôl i'r Bwrdd Iechyd gymeradwyo cais i'w drawsnewid.
Yn dilyn adnewyddu’r adeilad tri llawr, roedd yn bodoli gyntaf fel cyfleuster cleifion allanol dros dro yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, cyn caniatáu lle yn araf ar gyfer amrywiaeth o dimau amlddisgyblaethol CF.
Ym mis Mai 2013, symudodd y tîm CF i'r llawr uchaf, ac yna erbyn hydref yr un flwyddyn, agorwyd ardal cleifion allanol ar y llawr gwaelod. Roedd y llawr hwn yn darparu ystafelloedd ymgynghori, ystafelloedd triniaeth, campfa ac ystafelloedd ymchwil.
Yn dilyn hyn, gwnaethom gais am ganiatâd cynllunio a chyflwynwyd achosion busnes amrywiol i ariannu'r gwaith o drawsnewid y llawr canol yn ward en-suite i gleifion . Yn olaf, comisiynwyd y ward newydd ym mis Ebrill 2021 a chaewyd yr hen uned CF. Mae'r Ganolfan CF bellach wedi'i chwblhau, ac eithrio'r ddwy ardd ochr â gatiau sy'n ffinio â'r ganolfan, a fydd yn cael eu defnyddio gan gleifion CF yn unig. Gobeithiwn y bydd yr ardaloedd hyn wedi'u cwblhau erbyn canol yr haf hwn, a bryd hynny bydd ffordd uniongyrchol i mewn i ardal cleifion allanol y ganolfan CF.
Yr enw blaenorol ar y Gronfa Bywyd Gwell oedd yr Apêl Bywyd Gwell. Ar ôl trosglwyddo'r ward newydd yn y Ganolfan CF, roedd gwaith yr apêl wedi'i gwblhau. Yn wyneb hyn, newidiwyd yr enw i'r Gronfa Bywyd Gwell. Mae'r holl roddion i'r Gronfa Bywyd Gwell yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd i ddarparu gardd/ardaloedd eistedd pwrpasol i'r ddwy ochr sy'n ffinio â'r Ganolfan CF. Bydd un o'r ochrau hyn hefyd yn galluogi cleifion i ddod yn syth i ardal cleifion allanol CF heb fod angen mynd drwy'r ysbyty.
Ychydig o hanes yr Apêl Bywyd Gwell; fe'i sefydlwyd yn 2006 a'i lansio'n swyddogol yn 2007, i ddarparu pethau ychwanegol i gleifion CF yn ogystal â darparu adeilad newydd gan ein bod yn gallu ei gael yn Llandochau h.y. y gampfa gyntaf i gleifion yr oeddem wedi gallu ei sefydlu (rydym bellach ar ein trydedd campfa newydd i gleifion, sy’n ardal llawer mwy ym mlaen y ganolfan CF). Trwy ymdrechion aruthrol ein cleifion, eu teuluoedd a’u ffrindiau yn ogystal â sawl sefydliad mawr, llwyddwyd i sicrhau canolfan CF newydd ac agorwyd ardal cleifion allanol CF ar y llawr daear ac ystafelloedd y tîm amlddisgyblaethol ar y llawr uchaf yn 2012. Ariannwyd yr holl offer ar gyfer yr ardal cleifion allanol drwy’r Apêl Bywyd Gwell. Yn dilyn hyn fe ddechreuon ni weithio ar drawsnewid y llawr canol yn ward newydd gyda gwelyau en-suite. Bu’r rhoddion a gawsom gan ein teuluoedd, cleifion a’u ffrindiau yn werthfawr yn ystod y blynyddoedd dilynol gan fod hyn wedi ein galluogi i ddarparu offer ar gyfer y ward newydd ynghyd â phethau ychwanegol i wneud arhosiadau hir cleifion mewnol yn fwy cyfforddus.
Rydym yn parhau i godi arian drwy'r Gronfa Bywyd Gwell, i'n galluogi i gwblhau'r gerddi i'n cleifion eu mwynhau ac i barhau i ddarparu pethau ychwanegol yn ôl yr angen yn ein hardaloedd cleifion allanol a chleifion mewnol.
Os hoffech gyfrannu gallwch anfon unrhyw roddion ataf yn y cyfeiriad isod-:
Lorraine Speight
Rheolwr y Gwasanaeth Ffeibrosis Systig
Canolfan Ffeibrosis Systig Cymru Gyfan i Oedolion
Ysbyty Athrofaol Cymru
Ffordd Penlan
Penarth
CF642XX
Neu os oes angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnoch neu os hoffech drefnu trosglwyddiad banc i’n cronfa, mae croeso i chi gysylltu â mi ar 02920 715382 neu ar 07527 843340 neu drwy e-bost: Lorraine.speight@wales.nhs.uk.
Rydym yn ymdrechu’n barhaus i ddarparu gwasanaeth o ragoriaeth ac arfer gorau i’r holl gleifion dan ofal Canolfan Ffeibrosis Systig Cymru Gyfan. I'r perwyl hwn mae gennym flwch awgrymiadau/adborth cleifion yn nerbynfa ein cleifion allanol a byddem yn ddiolchgar pe gallech gymryd yr amser i gwblhau cerdyn awgrymiadau a rhoi hwn yn y blwch os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar sut y gallwn wella/datblygu ein gwasanaeth ymhellach. Gellir dod o hyd i gardiau gwag ym mhob ystafell ymgynghori ac ar ddesg flaen y dderbynfa.