Mae eich tîm deieteg yn cynnwys 2 Ddeietegydd Ffeibrosis Systig Arbenigol amser llawn, sef Meenu a David, sy'n cael eu cefnogi gan ein cynorthwy-ydd deieteg dyfeisgar, Beata.
Mae maeth yn allweddol i iechyd pobl sydd â ffeibrosis systig. Deietegwyr yw'r unig weithwyr iechyd proffesiynol cymwysedig sy'n asesu, gwneud diagnosis a thrin problemau sy'n ymwneud â deiet a maeth.
Rydym yn rhoi cyngor a gwybodaeth am faeth i'r holl gleifion mewnol ac allanol sydd â ffeibrosis systig.
Rydym yn ceisio helpu cleifion i hunanreoli pob agwedd ar eu hanghenion maethol, gan roi cyngor a chymorth ynglŷn â maeth (gan gynnwys cyngor ysgrifenedig y gallwch fynd ag ef gyda chi) ar y pynciau canlynol.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.