Mae Canolfan Ffibrosis Systig (FfS) Oedolion Cymru Gyfan yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Ar hyn o bryd, darparwn ofal FfS arbenigol i fwy na 280 o gleifion o bob cwr o Gymru. Hon yw'r unig ganolfan FfS i oedolion yng Nghymru, ac rydym yn ymdrechu o hyd i fodloni anghenion y cleifion dan ein gofal heddiw ac yn y dyfodol.
Mae Ffeibrosis Systig (CF) yn gyflwr etifeddol, lle rydych chi'n etifeddu un genyn diffygiol gan bob un o'ch rhieni. Os oes gennych ddau enyn diffygiol, yna mae llawer o arwynebau yn eich corff yn methu â symud halen a dŵr yn iawn i mewn/allan o'u celloedd. Mae hyn yn achosi crynhoad o fwcws trwchus, gludiog mewn gwahanol rannau o'r corff, sy'n achosi difrod a gall achosi i'r organau hynny roi'r gorau i weithio'n iawn. Gall hyn effeithio ar bron unrhyw ran o'ch corff ond yn fwyaf cyffredin mae'n effeithio ar eich:
Trwyn a Sinysau Ysgyfaint Pancreas Stumog a Choluddion Yr Iau a'r Goden Fustl Cymalau
Mae’r gofal ar gyfer CF wedi newid dros y blynyddoedd, gan ddechrau o nifer fach o feddyginiaethau a ddefnyddir i helpu i glirio mwcws, a gwella symptomau i amrywiaeth eang o feddyginiaethau i helpu i atal afiechyd. Yn fwyaf diweddar, datblygwyd grŵp newydd o feddyginiaethau, Cyweiriaduron CFTR, a all wella cludiant halen a dŵr mewn celloedd. Ar y cyd â gofal aml-broffesiynol tîm, mae hyn wedi arwain at ddisgwyliad oes llawer hirach, ac at nifer fwy o lawer o oedolion yn byw gyda CF.
Gan fod CF yn effeithio ar gymaint o rannau o'ch corff, gall effeithio ar bron unrhyw ran o'ch bywyd, gan gynnwys eich iechyd corfforol a meddyliol, lles, gwaith a chydberthnasau. Mae ein tîm CF wedi'i sefydlu i helpu i reoli'r holl faterion gwahanol hyn, a dyna pam mae gennym lawer o bobl yn ein tîm ar draws nifer o broffesiynau.
All Wales Adult Cystic Fibrosis Centre
Ysbyty Athrofaol Llandochau
Heol Penlan
Penarth
CF64 2XX
Mwy o wybodaeth am barcio yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.