Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan (AWMGS)

Mae Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan (AWMGS) yn wasanaeth iechyd rhanbarthol arbenigol y GIG sy’n helpu ac yn cefnogi cleifion yng Nghymru sydd â chyflyrau genetig, a allai fod mewn perygl o ddatblygu symptomau cyflwr genetig neu sy’n pryderu am hanes eu teulu.

 

Gwasanaethau Geneteg Clinigol

Darperir gwasanaethau Geneteg Clinigol gan dîm o feddygon geneteg glinigol, cwnselwyr genetig, cydlynwyr hanes teulu a gweinyddwyr. Mae'r tîm yn darparu gwasanaethau genetig arbenigol i unigolion a theuluoedd sydd â chyflyrau genetig prin a/neu etifeddol, neu sy'n pryderu amdanynt.

Arbenigedd cleifion allanol yn bennaf yw hwn, a gwelir cleifion mewn clinigau cleifion allanol ledled Cymru a gallant gael mynediad at ymgynghoriadau dros y ffôn a’n rhithwir. Gwelir oedolion a phlant hefyd yn ystod arhosiad claf mewnol yn yr ysbyty lle bo’n briodol.

Mae prif weithgareddau geneteg glinigol yn cynnwys:

  • Casglu gwybodaeth am hanes teulu a llunio diagram coeden deulu
  • Asesiad clinigol trwy hanes, archwiliad ac ymchwiliadau perthnasol, gan gynnwys profion genetig lle bo angen
  • Asesiad risg genetig ar gyfer cleifion ac aelodau o’r teulu
  • Cwnsela genetig: y broses o integreiddio’r wybodaeth uchod a’i chyfleu i deuluoedd er mwyn caniatáu’r dewisiadau a’r penderfyniadau gwybodus gorau
  • Trafod opsiynau posibl a allai fod o gymorth, gan gynnwys profion cyn-geni, profion rhagfynegi, therapïau penodol neu gynlluniau rheoli, cysylltu â grwpiau cymorth a darparu gwybodaeth feddygol fanylach

Mae’r Gwasanaeth Geneteg Clinigol yn chwarae rhan bwysig mewn cysylltiad â gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd, a hefyd yn addysg staff proffesiynol eraill ar draws y GIG yng Nghymru.

 

Gwasanaethau Labordy Genetig

Rydym yn darparu ystod gynhwysfawr o wasanaethau profi genetig ar gyfer clefydau prin (llinell genhedlu) a chanser i boblogaeth Cymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r labordy’n cymryd rhan mewn cynlluniau asesu ansawdd allanol UK NEQAS, GENQA ac EMQN i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau rhagorol i’n cleifion.

Mae’r labordy yn darparu ystod eang o wasanaethau gan gynnwys:

  1. Clefyd prin - profion cyn-geni ar gyfer beichiogrwydd mewn perygl ac USS ffetws annormal, profion ôl-enedigol ar gyfer cyflyrau fel oedi datblygiadol ac anffrwythlondeb, profion penodol ar gyfer amrywiaeth o syndromau ac anhwylderau genynnau sengl, profion rhagfynegol lle mae mwtaniad teuluol yn hysbys, profion cludwr, sgrinio genynnau, a phrofion post-mortem ar gyfer camesgoriadau. Mae'r gwasanaeth yn cynnig gwasanaeth genom cyfan cyflym ar gyfer babanod sâl.
  2. Profion canser ar gyfer profion diagnostig a phrognostig ar gyfer malaenedd hematolegol (gan gynnwys monitro cimeriaeth ar ôl trawsblannu) a thiwmorau solet, profion canser teuluol a meddygaeth fanwl (haeniad prognostig, monitro ymateb i driniaeth a gwyliadwriaeth). Mae’r gwasanaeth yn darparu ystod o brofion genetig ar gyfer treialon clinigol amrywiol.

I weld y gyfres gyfredol lawn o brofion a ddarparwn, ewch i’n gwefan.

Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda phartneriaid academaidd a diwydiant i helpu i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau sydd ar flaen y gad, yn berthnasol ac o ansawdd uchel.   

Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’n gwasanaeth cwnsela geneteg clinigol fel bod cleifion yn cael cyngor addas cyn ac ar ôl profion. I gael rhagor o wybodaeth am naill ai Geneteg Glinigol neu ein gwasanaethau Labordy, ewch i wefan Genomeg Meddygol Cymru Gyfan. 

 

 

Dilynwch ni