Rydym yn dîm bach o Seicolegwyr a Therapyddion Seicolegol dan arweiniad Dr Gill Fitzgibbon, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol.
Rydym yn wasanaeth sy'n ehangu ac ar hyn o bryd mae gennym hefyd Maria Nunan, Therapydd Seicolegol, Dr Clio Spanou, Seicolegydd Iechyd Anrh a Sue Buckler, Rheolwr Swyddfa. Gobeithiwn gael swyddi ychwanegol yn y dyfodol agos. Mae ein tîm hefyd yn cynnwys Seicolegwyr Clinigol dan Hyfforddiant yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant.
Rydym yn darparu asesiadau seicolegol ac ymyrraeth therapiwtig i'r cleifion hynny a'u teuluoedd sydd angen cymorth seicolegol. Mae'r ymgynghorydd yn darparu asesiadau seicolegol ac ôl-ofal ar y Rhaglen Rhoddwyr Byw.
Mae gofal seicolegol yn cynnwys cefnogi cleifion a'u teuluoedd yn ystod pob cam o'r salwch a'r triniaethau â'u pryderon neu anawsterau. Yn benodol sut i integreiddio'r driniaeth i fywyd beunyddiol, newidiadau yn y ffordd y mae claf yn ei weld ei hun, a chysylltiadau ag eraill. Mae gofal seicolegol yn cynnwys gofalu am lesiant seicolegol ac emosiynol y claf.
Gwneir atgyfeiriadau fel rheol trwy Ymgynghorwyr neu Nyrsys Arbenigol. Fodd bynnag, rydym yn fwy na pharod i dderbyn atgyfeiriadau yn uniongyrchol gan y claf mewn cydweithrediad ag ymgynghorydd y claf.