Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Arsylwi Gwaith Meddygol

Mae'r Rhaglen Arsylwi Gwaith Meddygol (MWOP) wedi'i threfnu ar gyfer myfyrwyr Chweched Dosbarth Caerdydd a'r Fro sydd â diddordeb mewn astudio meddygaeth yn y Brifysgol.  Byddwch yn ymwybodol mai'r unig brofiad gwaith meddygol sydd ar gael yn BIP Caerdydd a'r Fro yw’r hyn a gynigir trwy'r Rhaglen Arsylwi Gwaith Meddygol.

Cyflwynir y rhaglen o Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau ac mae'n rhoi cipolwg gwerthfawr ar y proffesiwn meddygol. 

Mae'n gyfle cyffrous i'r myfyrwyr arsylwi amgylcheddau clinigol 'bywyd go iawn', gan gynnwys amrywiaeth o theatrau, rowndiau ward a chlinigau.  Mae pob lleoliad yn para pedwar diwrnod ac yn ystod y rhaglen bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai gan gynnwys, Efelychu/Sgiliau Clinigol, Derbyniadau i Ysgolion Meddygol a 'Bywyd fel Meddyg Iau'.

Adborth Myfyrwyr

Gofynnir i fyfyrwyr gwblhau llyfr cofnodion myfyrio a rhoi adborth am eu profiadau. Roedd y sylwadau blaenorol yn cynnwys:

  • “Teimlais fod yr wythnos yn fuddiol iawn gan fy mod wedi dysgu llawer ac rwyf wedi cael gwybod am lawer iawn o adrannau mewn Meddygaeth nad oeddwn yn gwybod eu bod yn bodoli.”
  • “Mae wedi fy ngwneud yn fwy penderfynol i ennill fy ngraddau academaidd gan fy mod bellach yn gwybod mai Meddygaeth yw'r dewis iawn i mi.”
  • “Roedd y Rhaglen Arsylwi Gwaith Meddygol yn hynod ddefnyddiol a diddorol. Dangosodd i mi bob agwedd ar Feddygaeth, agweddau da a gwael. Rwyf hefyd wedi sylweddoli pwysigrwydd gwaith tîm a sgiliau cyfathrebu.”
  • “Roedd yr amrywiaeth o adrannau yr oeddem yn ymweld â nhw yn caniatáu imi brofi bywyd bob dydd fel meddyg neu weithiwr proffesiynol.”

Pryd caiff ei gynnal?

Mae MWOP fel arfer yn cael ei gynnal am dair wythnos yn ystod misoedd yr haf.

Mae'r dyddiadau ar gyfer MWOP 2025 fel a ganlyn:

Dydd Llun 7 Gorffennaf — Dydd Iau 11 Gorffennaf 2024
Dydd Llun 14 Gorffennaf — Dydd Iau 17 Gorffennaf 2024
Dydd Llun 21 Gorffennaf — Dydd Iau 24 Gorffennaf 2024

 

 

Cysylltwch â ni:

Os oes gennych unrhyw ymholiadau anfonwch e-bost at: medicalwork.obersavtionprogramme.cav@wales.nhs.uk

 

 

Dilynwch ni