Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Addysgu

Mae'r Adran Addysg Feddygol yn cynnig ystod eang o raglenni addysgu.

Rhaglen Hyfforddi Sylfaenol

Mae'r Rhaglen Sylfaen yn rhaglen hyfforddiant cyffredinol dwy flynedd sy'n ffurfio'r bont rhwng ysgol feddygol a hyfforddiant arbenigol/ymarfer cyffredinol.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am Hyfforddiant y Rhaglen Sylfaen, cysylltwch â:

Cysylltwch â Rheolwr y Rhaglen Sylfaen gydag unrhyw ymholiadau ynghylch ein Rhaglen Sylfaen - Ms Sharon Goodwin, Sharon.Goodwin@wales.nhs.uk

Addysgu Meddygon Teulu

Cynhelir sesiynau addysgu meddygon teulu bob dydd Mercher rhwng 2.00pm a 5.00pm ar yr 2il Lawr, Adeilad Cochrane, Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae'n agored i bob Hyfforddai Meddyg Teulu ar Gynllun Caerdydd.

Am fwy o fanylion e-bostiwch: Cardiff.GPTraining@wales.nhs.uk

Addysgu IMT

Mae rhaglen leol o sgiliau clinigol ac addysgu efelychu i gefnogi anghenion hyfforddi.  Mae Rhaglen Addysgu Rhanbarthol yn cael ei chydlynu'n ganolog gan yr Ysgol Arbenigol, AaGIC. I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd addysgu penodol i IMT, cysylltwch â Mollie Lewis Mollie.Lewis@wales.nhs.uk  

Addysgu CST

Mae sesiynau sgiliau ad hoc lleol yn cael eu darparu o fewn y BIP a Rhaglen Addysgu Rhanbarthol sy'n cael ei chydlynu'n ganolog gan yr Ysgol Arbenigol, AaGIC.  I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd addysgu penodol i CST cysylltwch â Mollie Lewis Mollie.Lewis@wales.nhs.uk 

Rhaglen CME Seiciatreg

Mae hyn yn digwydd bob dydd Gwener yng Nghanolfan Academaidd Routledge, Ysbyty Athrofaol Llandochau.  I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Mollie Lewis Mollie.Lewis@wales.nhs.uk

Dilynwch ni