Rheolir Absenoldeb Astudio yn unol â pholisi HEIW Cymru gyfan
Gan y gall dyraniad Absenoldeb Astudio amrywio o flwyddyn i flwyddyn, rydym yn cynghori eich bod yn cysylltu â’r Gweinyddwr Absenoldeb Astudio i gadarnhau eich dyraniad unigol.
Diffinnir Absenoldeb Astudio fel absenoldeb a roddir at ddibenion ôl-raddedig ac a gymeradwyir gan y BIP ac mae'n cynnwys astudio (fel arfer ond nid yn gyfan gwbl neu o reidrwydd ar gwrs), ymchwil neu sefyll arholiadau.
Miss Siobhan Griffin, Gweinyddwr Absenoldeb Astudio, YAC, Ffôn: 029 2184 2474
E-bost Siobhan.Griffin@wales.nhs.uk
Mrs Carole Gee, Gweinyddwr Absenoldeb Astudio, YAC, Ffôn: 029 2182 6341
E-bost: Carole.Gee@wales.nhs.uk
Mae'r gweinyddwyr yn cysylltu â Chyfarwyddwyr y Rhaglen Sylfaen (FPDs) ynghylch materion sy'n ymwneud â cheisiadau am absenoldeb astudio FP1 a FP2, ac Arweinwyr y Cyfadrannau eraill ynghylch ceisiadau eraill.
System ymgeisio am absenoldeb astudio ar-lein yw'r Rheolwr Absenoldeb. Mae'r system yn caniatáu i geisiadau am bob math o wyliau gael eu rheoli'n fwy effeithlon gan fod y broses yn ddi-bapur a bod pob cyfathrebiad electronig yn gwbl awtomataidd.
Dilynwch y camau hyn wrth wneud cais am absenoldeb astudio:
DS Mae'n rhaid i chi gadw at weithdrefnau adrannol ar gyfer cofnodi eich absenoldeb er mwyn sicrhau cyflenwad clinigol.
|
Hawlio Costau yn ÔlDS Ni allwch hawlio treuliau am absenoldeb astudio yn ôl oni bai eich bod wedi cwblhau'r broses ymgeisio ar-lein cyn i'r cwrs gael ei gynnal.
Ni chyflwynir ceisiadau annarllenadwy neu anghyflawn. |