Neidio i'r prif gynnwy

Awgrymiadau ar gyfer Lles yn ystod Cyfnod Ynysu

Mae sawl ffordd o gynllunio a pharatoi ar gyfer hunanynysu, a chymaint gallwch chi ei wneud i gadw'n brysur a chynnal eich lles tra byddwch chi'n aros gartref. Ceisiwch beidio meddwl beth na allwch chi ei wneud – canolbwyntiwch ar y pethau gallwch chi eu gwneud, fel meithrin eich diddordebau a'ch perthnasoedd, a chanolbwyntio ar hunanofal.

Gwneud ymarfer corff yn rheolaidd 

Mae gweithgarwch corfforol yn rhyddhau cemegau sy'n lleihau pryder, ac yn tynnu sylw mewn ffordd iach hefyd. Mae llawer o bethau gallwch chi eu gwneud i barhau i wneud ymarfer corff tu mewn i'ch cartref, hyd yn oed os ydych chi'n hunanynysu.

Bwyta'n iach

Gall maeth da gael effaith gadarnhaol ar eich hwyl, gan roi hwb i'ch egni a'ch imiwnedd hefyd. Mae cynllunio'ch prydau bwyd ymlaen llaw, fel y byddwch yn gwybod p'un a oes gennych chi, ac unrhyw aelodau o'r teulu neu anifeiliaid anwes, ddigon o fwyd i bara, yn syniad da.

Trefn

Mae cadw at drefn i roi strwythur a chydbwysedd i'ch diwrnod yn syniad da. Anelwch at ddihuno a mynd i'r gwely ar yr un pryd, a chael tri phryd o fwyd ar yr un pryd bob dydd – gan gofio cynnwys seibiau rheolaidd i gael dŵr, ymarfer corff ac awyr iach.

Cadw mewn cysylltiad

Mae'n bwysig cadw mewn cysylltiad â'ch ffrindiau a'ch teulu. Anfonwch negeseuon testun neu ffoniwch yn rheolaidd i siarad am y sefyllfa a sut rydych chi'n ymdopi. Neu beth am drefnu sgwrs fideo fel y gallwch o hyd 'weld' eich gilydd? Mae nifer o ddyfeisiau electronig ar gael ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i'ch helpu gydag ymweld rhithwir yn ystod eich arhosiad. Byddwn yn eich annog chi i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn gymaint â phosibl.

Dilynwch ni