Neidio i'r prif gynnwy

Gwella Gwydnwch ym maes Anesthesia - Cynllun Ysgogi 30 Diwrnod

Hoffwn ddiolch i'r Athro Andy McCann ac Elaine Russ o Brifysgol Caerdydd am eu cymorth wrth lunio'r cynllun 30 Diwrnod hwn.

Pobl gyffredin sy'n gwneud pethau anghyffredin yw gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd. 

Gadewch i ni ddechrau ein Taith 30 Diwrnod gyda'n gilydd - cliciwch ar y ddelwedd i gael rhagor o wybodaeth a gwyliwch y fideo cysylltiedig isod.


DAY 1 - Journaling

Diwrnod 1 - Cadw Dyddiadur

Rwy'n meddwl am fy nhri pheth ar y ffordd adref - mae'n codi fy hwyliau. 

Gwyliwch y fideo YouTube hwn ar Hybu eich Hunan-barch 


DAY 1 - Journaling

Diwrnod 2 - Cyflwyno Ffactorau Dynol

Cofiwch ofalu amdanoch eich hun a gofalu am eich cydweithwyr (fel y gallan nhw ofalu amdanoch chi).

Rydym yn gwneud miloedd o benderfyniadau bob dydd ac mae'r rhai anodd yn gallu gofyn llawer yn wybyddol. Optimeiddiwch eich hun i optimeiddio'ch penderfyniadau - fel y dyweder - meddyliwch am reoli egni.

Gwyliwch y Cyflwyniad Fideo YouTube hwn - Gofalu Amdanoch eich Hun


DAY 1 - Journaling

Diwrnod 3: Eich Ecosystem Gymdeithasol
Defnyddiwch FaceTime neu hyd yn oed y ffôn i gysylltu â'ch anwyliaid. 

Gwyliwch y Cyflwyniad YouTube hwn ar Ddod yn Fwy Optimistaidd 


DAY 1 - Journaling

Diwrnod 4: Eich Gweddnewidiad Emosiynol 
Ymarferwch wacáu eich bwced straen - rhowch eich holl straen waith yn y fwced hon a'i gwacáu ar ddiwedd y dydd. Wedyn, byddwch yn cyrraedd adref (ar ôl llenwi'ch dyddiadur diolchgarwch) gyda bwced straen wag (y gallwch ei llenwi â'ch straen bywyd gartref!).

Gwyliwch y Cyflwyniad YouTube hwn ar Reoli Straen


Day 5 - Your Breathing

Diwrnod 5: Anadlu

Ymarferwch anadlu bocs bob dydd, yn enwedig pan fyddwch chi'n teimlo'r pwysau'n cynyddu.
Anadlwch i mewn a chyfrif i 4, daliwch am 4, anadlwch allan am 4, daliwch am 4. Ailadroddwch hyn 4 gwaith. Mae'n ymarfer gwych i reoli pwysau yn y fan a'r lle.

Gwyliwch y Cyflwyniad YouTube hwn ar Ymwybyddiaeth Ofalgar


Day 6 - Physical Activity

Diwrnod 6 - Gweithgarwch Corfforol

Ymunwch â fi am 7 munud - byddwn yn gwneud yr ymarferion gyda'n gilydd.

Gwyliwch y Cyflwyniad YouTube hwn ar Ymarferion Corfforol


Day 7 - Hydration

Diwrnod 7 - Hydradu 

Rhowch gynnig ar gwpanaid o ddŵr wedi'i ferwi yn lle diodydd caffein.

Gwyliwch y Cyflwyniad Fideo YouTube hwn - Gofalu Amdanoch eich Hun


Day 8 - Your Sleep

Diwrnod 8 - Cwsg 

Mae cwsg yn allweddol i berfformiad. Gwaharddwch ffonau o'r ystafell wely a cheisiwch gysgu gyda'ch ochr ddominyddol i fyny.

Gwyliwch y Cyflwyniad YouTube hwn - Gofalu am eich Cwsg


Day 9 - Your Food

Diwrnod 9 - Bwyd 

Rhowch gynnig ar lyfr ryseitiau newydd - dyma fy hoff rai i ar hyn o bryd: A pinch of Nom, The Tray Bake Series a Towchubbycubs and Bosh!

Gwyliwch y Cyflwyniad Fideo YouTube hwn ar ddysgu


Day 10 Icon - Your Family Time


Diwrnod 10 - Amser Teulu Positif

Edrychwch ar y gyfres ffilmiau 'The Baker's Dozen' isod.

Gwyliwch y Cyflwyniad Fideo YouTube hwn ar Ofyn am Gymorth


Day 11 - WebIcon


Diwrnod 11 - Eich Gweithgarwch Corfforol


Does gennych chi ddim amser i BEIDIO ag ymarfer corff! Rwy'n credu bod Joe Wicks yn ysbrydoli pawb ar YouTube (PE gyda Joe:Cliciwch yma ar gyfer ei sesiwn ymarfer 30 munud)



Day 12 - WebIcon

 

Diwrnod 12 - Ymlacio

Gwrandewch ar hwn trwy glustffonau - Weightless gan Marconi Union (ond nid tra byddwch yn gyrru!)


Day 13 - WebIcon

 

Diwrnod 13 - Gwnewch Wiriad Technoleg a Chysylltu'n Ofalgar ag eraill

Gwaharddwch eich ffôn o'r ystafell wely.


Day 14 - WebIcon


Diwrnod 14 - Cysylltu â Byd Natur

Cerddwch neu beiciwch i werthfawrogi'r haul a dechrau'r gwanwyn - rwy'n dwlu ar yr olygfa o Eglwys Gadeiriol Llandaf o'r bont dros Afon Taf.


Day 15 WebIcon

Diwrnod 15 - Darllen Newyddion Positif


Day 16 WebIcon

Diwrnod 16 - Diwrnod Dim Technoleg

Ymrwymwch i Ddiwrnod Dim Technoleg - o ddifri! Rhowch gynnig arni - mae'n anodd iawn a bydd yn profi pa mor dynn yw gafael electroneg arnoch.


Day 17 WebIcon

Diwrnod 17 - Dysgu ac Ymgysylltu Deallusol

Dyma un o'm hoff rai 
- sut i dynnu croen banana? (Google)
- sut i glymu careiau esgidiau - roeddwn i wedi bod yn clymu fy rhai i'n anghywir ers 50 mlynedd...
- agor potel siampên gyda sabr (rhywbeth i edrych ymlaen ato)


Day 18 WebIcon

Diwrnod 17 - Anadlu

Cyngor doeth


Day 19 WebIcon

Diwrnod 19 - Aros yn Effro yn y Gwaith

Cadwch lygad am arwyddion HALT (Newynog, Dig, Hwyr, Blinedig) ynoch chi a'ch cydweithwyr - gofalwch amdanyn nhw ac fe fyddan nhw'n gofalu amdanoch chi. Rhybuddiwch nhw am y pantiau


Day 20 - WebIcon

Diwrnod 20 - Canolbwyntio ar Un Dasg 

Nid yw'r un ohonon ni'n gallu aml-dasgio - mae'n ffordd dda o wneud cawlach o ddau beth!


Day 21 - WebIcon

Diwrnod 21 - Gwerthuso'ch penderfyniadau

Byddwch yn ymwybodol o'ch prosesau cyflym ac araf a dysgwch am fodel WRAP.

Penderfyniadau gwell gartref ac yn y gwaith.


Day 22 - WebIcon

Diwrnod 22 - Gofynnwch am gymorth neu rhannwch y pwysau

Gallwch bob amser ofyn am gymorth - peidiwch â theimlo'n ofnus.


Day 23 - WebIcon

Diwrnod 23 - Ymdopi â gwrthdaro

Ni allwn reoli amgylchiadau, ond gallwn reoli ein hymateb iddynt.


Day 24 - WebIcon
 

Diwrnod 24 - Gwiriwch eich amgylchedd gartref

Llawenydd tacluso, hwfro a choginio...


Day 25 - WebIcon

Diwrnod 25 - Allgaredd a Lles

Cyflawnwch weithred o garedigrwydd ar hap.


Day 26 - WebIcon

Diwrnod 26 - Cysylltu â rhywun

Yn ddi-au, dyma un o fanteision technoleg fodern.


Day 27 - WebIcon

Diwrnod 27 - Hunanofal

Rwy'n trefnu apwyntiad bob amser, i mi fy hun yn unig.


Day 28 - WebIcon

Diwrnod 28 - Sylwi Go Iawn

Ymarferwch 5 4 3 2 1 , yn enwedig pan fyddwch yn aros mewn ciw am rywbeth.


Day 29 - WebIcon

Diwrnod 29 - Diolch i Bobl Eraill

Diolch!


Day 30 - WebIcon

Diwrnod 30 - Myfyrio ar eich profiadau

Bydd yn fyd gwahanol...


ADNODDAU DARLLEN YSBRYDOLEDIG 

1. Bakers Dozen of Wellbeing - Your Stress Management and Resilience Toolkit. (Cliciwch ar y logo i fynd at y PDF)

Bakers Dozen Motivation Bakers Dozen Icon

2. Improving Resilience in Anaesthesia and Intensive Care Medicine - learning from the Military. (PDF)

 

ADNODDAU FIDEO YSBRYDOLEDIG 


'The Baker’s Dozen'

0 - Cyflwyniad - Y 3 'C'  

1. Newid eich Safbwynt 

2. Dod yn fwy Optimistaidd 

3. Hybu eich Hunan-barch 

4. Ymarfer Corff

5. Ymwybyddiaeth Ofalgar 

6. Rheoli Straen 

7. Cwsg 

8. Gwneud Penderfyniadau Gwell

9. Gofyn am Gymorth 

10. Sut i ymdrin â gwrthdaro 

11. Dysgu 

12. Gofalu amdanoch eich hun

13. Gwenu 

14. Crynodeb a Chasgliad 

Fideos Ychwanegol


1. Athroniaeth a model y meddwl

2. Perfformiad Gorau

3. Gwneud penderfyniadau gwell

4. Sicrhau'r diwrnod gorau i mi a chi

 


BEICIO I'R GWAITH

Os oes gennych ddiddordeb mewn beicio i'r gwaith, edrychwch ar y cyflwyniad hwn i gael awgrymiadau da a chyngor : BEICIO I'R GWAITH

 


 

Dilynwch ni