Mae Bwrdd Clinigol Iechyd Meddwl yn cynnwys lleoliadau yn y gymuned a lleoliadau cleifion mewnol ac mae wedi'i gynllunio gyda defnyddwyr y gwasanaeth mewn cof, gyda ffocws ar adfer ac adsefydlu.
Nod y Bwrdd Clinigol yw cydweithio, mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol, y trydydd sector, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i gomisiynu, dylunio, creu, darparu a gwerthuso ein gwasanaethau.
Mae gan ein staff a defnyddwyr ein gwasanaethau weledigaeth hirdymor ar gyfer cynyddu gofal yn y gymuned a chynyddu modelau rhannu'r gofal. Mae gennym dimau cymunedol, gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol a gwasanaethau cleifion mewnol, ac rydym yn rheoli gwasanaethau arbenigol fel Gofal Dibyniaeth, Gofal Diogelwch Isel a Gofal Dementia Cynnar.
Cyfarwyddwr y Bwrdd Clinigol - Neil Jones
Cyfarwyddwr Gweithrediadau - Dan Crossland
Cyfarwyddwr Nyrsio - Mark Doherty