Mae'r pwyllgor hwn bellach wedi'i ddirwyn i ben
Pwrpas Pwyllgor y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yw rhoi cyngor i'r Bwrdd ar bob mater yn gysylltiedig â staff a staffio'r Bwrdd Iechyd Prifysgol. Hefyd, bydd yn rhoi sicrwydd i'r Bwrdd ynghylch pob mater yn ymwneud ag adnoddau dynol a datblygu sefydliadol.
Caiff rôl lawn y Pwyllgor hwn ei hamlinellu yn y Cylch Gorchwyl.
Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod yn yr Ystafell Gyfarfod Gorfforaethol, Ysbyty'r Eglwys Newydd, ar y dyddiadau isod.
I fynd at bapurau'r Pwyllgor, dewiswch ddyddiad y cyfarfod perthnasol. Os hoffech ddod i'r cyfarfod fel arsyllwr, neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Kathy Bennet ar 029 2074 6883.
Cyfarfodydd 2012/13 |
---|
10 Ionawr 10 Ebrill 17 Gorffennaf 30 Hydref 29 Ionawr 2013 |
Mae'r papurau o gyfarfodydd blaenorol Pwyllgor y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol ar gael o hyd.
Mae Pwyllgor y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol wedi sefydlu Grŵp Llywio'r Strategaeth Cydraddoldeb. Pwrpas y Grŵp hwn yw gwreiddio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hawliau Dynol ar draws y sefydliad a'i amrywiaeth o weithgareddau: cael at / cyflwyno gwasanaethau, arferion cyflogaeth, ymwneud gan gleifion a'r cyhoedd, comisiynu gwasanaethau a threfniadau partneriaeth.
Mae Pwyllgor y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn cael adroddiad cryno o bob cyfarfod Grŵp Llywio'r Strategaeth Cydraddoldeb.