Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw cydraddoldeb?

equity and Inclusion - Home (sharepoint.com). Gall hyn fod â mynediad cyfyngedig. 

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Hawliau Dynol 1998, mae gan bawb yr hawl i gael eu trin yn deg a chydag urddas a pharch. Yn y Bwrdd Iechyd, rydym eisiau i’n holl weithwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu. Rydym hefyd am i bob claf ac aelod o’r cyhoedd sy’n dod i gysylltiad â’r BIP fod yn hyderus y cânt eu trin yn barchus, gydag urddas, a heb wahaniaethu na rhagfarn

Mae oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd, ffydd neu gred/diffyg cred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol i gyd yn agweddau ar berson sy'n ffurfio ei hunaniaeth ac yn cael eu galw'n 'nodweddion gwarchodedig' o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Efallai y bydd ffactorau cymdeithasol eraill hefyd fel teulu, amgylchiadau ariannol, a ffordd o fyw sy'n pennu sut mae person yn gweld ei hun, neu'n cael ei weld gan eraill. 

Mae gan y BIP ddyletswydd i gymryd camau yn erbyn gweithwyr, cleifion, neu'r cyhoedd sy'n gweithredu yn erbyn y deddfau cydraddoldeb. Bydd unrhyw ymddygiad gwahaniaethol gan staff yn cael ei drin fel trosedd ddisgyblu ac yn ddarostyngedig i sancsiynau o dan y Polisi Disgyblu. Gellid gwrthod mynediad i wasanaethau neu adeiladau i aelodau o'r cyhoedd neu gleifion os ydynt yn diystyru cyfreithiau a pholisïau cydraddoldeb yn fwriadol. 

Fel rhan o'r agenda cydraddoldeb, rydym yn annog aelodau staff i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg fel rhan o'u gwaith wrth ddelio â chleifion a defnyddwyr gwasanaeth. Rydym hefyd yn annog staff i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu hamgylchedd gwaith dyddiol gyda chydweithwyr eraill a gyda chleifion a'r cyhoedd. Rydym yn hyrwyddo ystod o gyfleoedd dysgu ar gyfer y rhai sy'n dymuno datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg. Mae'r sefydliad hefyd yn prif ffrydio'r Gymraeg i'w arferion recriwtio ar draws pob maes. 

Wrth symud ymlaen, bydd ein gwaith yn canolbwyntio ar y meysydd lle mae angen y gwelliant mwyaf i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau o fewn cymunedau a rhyngddynt. Gall hyn gynnwys canolbwyntio ar anghenion penodol pobl sydd dan anfantais neu y gwahaniaethir yn eu herbyn oherwydd pwy ydynt, eu nodwedd warchodedig, e.e. oedran, anabledd, hunaniaeth draws neu o ran rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, mamolaeth neu feichiogrwydd, hil, crefydd, neu gred a chyfeiriadedd rhywiol. 

 

Rydym yn benderfynol yn ein nodau i:

  • Ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon.
  • Gwella cyfle cyfartal.
  • Annog cysylltiadau da.

Mwy o wybodaeth

Linking our Thinking Tree

Dilynwch ni